Cyfoethogi bywydau trwy godi safonau a gwella gofal dementia.
Oeddech chi'n gwybod bod rhywbeth ar waith i wneud gofal a chefnogaeth dementia yn well?
Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i godi safonau a gwella gofal dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful
Rydym am wneud gofal a chefnogaeth dementia yn well
Mae Gwelliant Cymru, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, pobl sy’n byw gyda dementia a gofalwyr, wedi creu set o safonau gorfodol sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau dementia.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ei bod yn disgwyl gweld y safonau hyn yn cael eu cyflawni.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ar draws Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful i sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni.
Rydym yn defnyddio’r cyllid dementia a gawn gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn.
Gallwch chi fod yn rhan o ddylunio a datblygu’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i bobl â dementia, a bod yn rhan o’r gwaith o osod y blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ar draws ein cymunedau.
Hoffem glywed sut rydych chi’n meddwl y gallwn wella pethau a byddem hefyd yn eich annog i rannu’r gwaith hwn ymhlith eich rhwydweithiau.
Hoffem glywed sut rydych chi'n meddwl y gallwn wella pethau a byddem hefyd yn eich annog i rannu'r gwaith hwn ymhlith eich rhwydweithiau.
Ymunwch â ni i siapio'r ffordd mae gofal a chymorth yn edrych am bobl sydd â dementia, gofalwyr a'u teuluoedd.
Pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd, rydyn ni'n gwneud pethau'n well i bawb.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod chi’n derbyn gwybodaeth gyfredol am bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu sut allwch chi gadw mewn cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, unrhyw awgrymiadau neu os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted â phosib.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.