Cymerodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ran mewn rhaglen hyfforddi 'dysgu drwy brofiad' ar gyfer dementia ynghynt eleni, law yn llaw â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a ddarparwyd gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Roedd Jane, sy’n Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, wedi bod yn gofalu am ei thad, David, am sawl blwyddyn ar ôl iddo gael diagnosis o Alzheimer’s.

Bu David, oedd wedi gweithio ledled y byd fel ffotograffydd gyda’r Llu Awyr Brenhinol, ac yna fel tocynnwr ar drenau, wedi byw gyda symptomau Alzheimer’s am ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth Jane, a’i mam Gaynor ei helpu i ymdopi â heriau niferus y clefyd, gan gynnwys newid yn ei bersonoliaeth a’i iechyd corfforol.

Fel rhan o'i rôl fel Cadeirydd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, gwahoddwyd Jane i gymryd rhan mewn taith ddementia rithiol, a drefnwyd gan Training 2 Care.

Mae’r bws dementia arbrofol, a dreialwyd gyntaf yn America, yn cynnig mewnwelediad unigryw i bobl i rai o’r heriau a wynebir gan bobl sy’n byw gyda dementia.

Gan ddefnyddio propiau ac offer efelychu a gynlluniwyd yn arbennig, bydd grwpiau bychain yn profi drostynt eu hunain y dryswch, yr ynysu, y bregusrwydd a’r anawsterau corfforol a all effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia yn eu bywydau beunyddiol.

Ar ôl y sesiwn, gwahoddir cyfranogwyr i fyfyrio ar y profiad ac ystyried sut y gallai ddylanwadu ar y ffordd y maen nhw’n cefnogi pobl â dementia.

Ar ôl cymryd rhan, addasodd Jane y ffordd yr oedd hi'n cefnogi'i thad.

Meddai hi:

“Roedd fy nhad wastad mor garedig a phwyllog, ond mae dementia’n salwch creulon. Fe wnaethon ni dreulio blynyddoedd lawer yn ceisio gofalu amdano a’i helpu; serch hynny, doeddwn i ddim yn deall yn llwyr yr hyn roedd e’n ei brofi. Fe wnaeth y profiad fy helpu innau i gerdded wrth ei ochr a meddwl am sut y gallwn hwyluso pethau iddo fe.”

Gall clefyd Alzheimer’s effeithio ar sut mae’r ymennydd yn prosesu synau a golau, all fod yn heriol ac yn flin i bobl.

Dywedodd Jane:

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli mor llethol oedd y gymysgedd barhaus o synau i Dad. Yn dilyn yr hyfforddiant, fe wnes i stopio galw arno fe o ochr arall yr ystafell, ac yn hytrach, byddwn i’n mynd draw ato fe, cyffwrdd ynddo fe, a gofyn cwestiwn iddo fe. Roedd hwnnw’n newid syml, ond byddai e’n ymateb mor wahanol i mi, a dwi wir yn credu ei fod wedi gwella ansawdd ei fywyd, a’n perthynas ni.”

Gall pobl sy’n byw gyda dementia, gan gynnwys Alzheimer’s, brofi dirywiad mewn deheurwydd a sgiliau echddygol hefyd, gan beri fod tasgau dyddiol fel cau botymau, ysgrifennu, trin cyllell a fforc neu agor pecynnau’n mynd yn gynyddol anodd.

Ychwanegodd Jane:

“Roedd Dad wedi colli chwe stôn mewn tair blynedd. Yn dilyn yr hyfforddiant, fe es i a phrynu platiau newydd, lliwgar iddo fe. Roedd Dad yn dwlu arnyn nhw, a byddai’n dewis ei blât ar gyfer pob pryd bwyd. Byddwn i hefyd yn cyflwyno’r bwyd mewn arddull bwffe, er mwyn iddo fe allu dewis beth roedd e eisiau bwyta. Fe wnaeth e fwyta mwy nag y gwelais erioed yn ystod chwe mis olaf ei fywyd.”

“Roedd Dad wedi bod yn gwrthod meddyginiaeth hefyd, ac fe wnaethon ni roi cynnig ar bob math o ymyrraeth, ond roedd popeth yn ofer. Ar ô-cyflwyno’r llestri newydd, fe ddechreuon i roi’i dabledi ar hambwrdd iddo fe i’w cymryd ar ôl ei swper, ac fe weithiodd hyn yn wych.”

Mae Rhaglen Ddementia Cwm Taf Morgannwg, sy'n eistedd o fewn i Bartneriaeth Ranbarthol CTM, yn gweithio i wella gwasanaethau, cefnogaeth, a dealltwriaeth o ddementia ar draws cymunedau drwy'r rhaglenni ffrwd waith amrywiol sydd ganddi.

Mae Jane o’r farn y bydd cynyddu cyfleoedd i gael hyfforddiant sy’n ymwneud â phrofiadau, yn helpu i adeiladu cymuned a gweithlu sgilgar, tosturiol sy’n ymwybodol o ddementia, ac ar yr un pryd yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr a chefnogaeth i bobl sy’n gofalu am anwyliaid a effeithiwyd gan y cyflwr.

Meddai hi:

“Bu farw Dad yn ddiweddar. Yn dilyn ei farwolaeth, fe ddaeth Mam â bag i lawr ata i, un yr oedd e wedi’i brynu i mi cyn iddo fynd yn wael iawn, ac mae’n rhywbeth y bydda i’n ei drysori bob amser. Fe fydda i wastad yn cofio cymaint o dad a gŵr rhagorol oedd e. Roedd e wedi teithio’r byd, yn dwlu cwrdd â phobl drwy’i waith fel tocynnwr trên, a fe oedd un o’r bobl fwyaf caredig i mi eu nabod erioed.”

“Er nad yw Dad gyda ni mwyach, bydd profiadau fel hyn yn fy helpu innau i fod yn well eiriolwr dros eraill, Fel arweinydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rwy’n angerddol dros sicrhau fod ein timau’n deall sut i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia. Mae hyfforddiant fel hyn yn ein helpu i gydnabod yr heriau a wynebir gan bobl, a sut y gallwn ni eu cefnogi i fyw’n dda gartref cyhyd â phosib, sef ble mae llawer o bobl eisiau bod.”

Dywedodd Hannah Watson, Rheolwr y Rhaglen Ddementia Ranbarthol ym Mhartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg:

“Fel rhan o’n ffrwd waith Dysgu a Datblygu’r Gweithlu, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan staff, arweinwyr a chymunedau ledled y rhanbarth fynediad at gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy’n cynyddu hyder ac yn gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia, a’u teuluoedd.”

“Mae clywed sut y llwyddodd Jane i ddefnyddio’r hyn ddysgodd hi i ofalu am ei thad yn dangos yr effaith wirioneddol y gall y math hwn o hyfforddiant ei chael. Mae’n atgyfnerthu pwysigrwydd meithrin dealltwriaeth ar draws ein cymunedau a’n gwasanaethau fel y gall pobl sy’n byw gyda dementia dderbyn y gefnogaeth person-ganolog y maen nhw’n ei haeddu.”

“Rydyn ni’n falch o fod wedi cyfrannu ein mewnwelediadau a’n profiadau rhanbarthol at ddatblygu’r Strategaeth Dementia newydd i Gymru ac yn edrych ymlaen at weld y strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.”

Gellir dod o hyd i’n blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer dementia, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws Cwm Taf Morgannwg i wella bywydau pobl a effeithir gan ddementia, yma: https://ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/dementia/

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.