Mae thema eleni, "Wyt ti'n fy Ngweld i?", a arweinir gan Mencap, yn hyrwyddo pwysigrwydd gweld, clywed, a gwerthfawrogi pobl â namau dysgu ym mhob agwedd ar fywyd.

Ledled Cwm Taf, mae sefydliadau’n nodi’r wythnos gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau – o gwisiau a sgyrsiau am iechyd a lles, i weithgareddau creadigol fel cyfansoddi caneuon.

Ym Merthyr, bydd y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol ym Mharc Iechyd Keir Hardie yn cynnal cwis ac yn arddangos her iechyd sydd wedi para blwyddyn a ddarparwyd mewn partneriaeth gyda’r sefydliad eiriol Pobl yn Gyntaf Cwm Taf. Bu’r fenter yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu i wneud dewisiadau byw iachach, gyda chyfranogwyr yn adrodd am arferion ymarfer corff a bwyta gwell.

Yn ychwanegol, bydd ffisiotherapyddion anableddau dysgu’n gwerthu cynnyrch o’u grŵp garddio yn Keir Hardie.

Mae’r wythnos yn cefnogi blaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Gweithredu Strategol Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru (2022–2026), sef gwella mynediad i Wiriadau Iechyd Blynyddol a chael mwy o bobl i’w cymryd.

Yn aml, bydd pobl ag anabledd dysgu’n profi gwaeth iechyd corfforol a meddyliol ac fe allant wynebu rhwystrau o ran cael mynediad i’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt

Gall Gwiriadau Iechyd Blynyddol wella deilliannau iechyd i bobl ag anableddau dysgu drwy annog sgyrsiau ynghylch byw’n iach a gofidiau am iechyd a llesiant.

Yn ystod Gwiriad Iechyd Blynyddol, bydd meddyg neu nyrs yn adolygu proffil iechyd rhywun law yn llaw â nhw. Efallai y byddan nhw wedyn yn gwirio’r galon a’r pwysau gwaed, holi am feddyginiaethau a bwyd, tynnu gwaed neu brawf wrin, a holi am eu llesiant.

Ar ddiwedd yr apwyntiad, llenwir cynllun gweithredu iechyd i gefnogi’r unigolyn i aros yn iach.

Bydd cân newydd – i’w chyfansoddi yn ystod yr wythnos hon – yn dod â’r profiadau hyn yn fyw.

I gefnogi hyn oll, fel partneriaeth byddwn ni’n gweithio gyda sefydliadau lleol i gasglu mewnwelediadau i ymwybyddiaeth a phrofiad pobl o Wiriadau Iechyd Blynyddol, ac yn amlygu enghreifftiau o arfer dda y gellir ei rannu ar draws y rhanbarth.

Bydd y mewnwelediadau hyn yn cynnig doethineb pellach ar gyfer llunio deunyddiau cyfathrebu a fydd yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl ag anableddau dysgu, rhieni, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Y llynedd, fe ffurfion ni bartneriaeth gyda Pobl yn Gyntaf Cwm Taf a Dr Hall o Feddygfa Llwyn-onn (Ashgrove) ym Mhontypridd i greu ffilm fer i esbonio beth i’w ddisgwyl mewn Gwiriad Iechyd Blynyddol.

Gellir gweld y ffilm yma: https://youtu.be/jSGClO_951k 

Mae’r holl weithgareddau hyn yn adlewyrchu ein hymdrechion parhaus i greu Cwm Taf Morgan cynhwysol—rhanbarth lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi.

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith i gefnogi pobl ag anableddau dysgu, ewch i’n gwefan:   https://ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/priority-areas-learning-disabilities/ 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.