Beth yw cyd-gynhyrchu?

Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru’n disgrifio cyd-gynhyrchu fel hyn*:

Mae cyd-gynhyrchu (gwasanaethau cyhoeddus) yn golygu fod pobl sy’n darparu ac yn cyflenwi gwasanaethau, a phobl sy’n defnyddio ac yn derbyn gwasanaethau, yn rhannu grym a chyfrifoldeb, ac yn cydweithio er budd y ddwy ochr mewn perthynas gyfartal, o’r ddeutu, a gofalgar.

Mae’n galluogi:

  • Pobl i gael mynediad i gefnogaeth ystyrlon pan fydd ei angen
  • Gwasanaethau i fod yn effeithiol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl
  • Pobl, gwasanaethau a chymunedau i ddod yn asiantwyr mwy effeithiol o blaid newid

*drwy garedigrwydd Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru

Hac-a-thon Cyd-gynhyrchu Cyd-gynhyrchied

Mae Cyd-gynhyrchu’n cymryd amser.

Os yw’n cael ei wneud yn effeithiol, bydd yn ein helpu i oresgyn rhwystrau, a dod o hyd i atebion, er mwyn gallu creu gwasanaethau go iawn sy’n ateb anghenion y rhai sydd angen eu defnyddio.

Ym mis Medi 2022 fe ddaethon ni â phobl â phrofiadau byw ynghyd â gweithwyr proffesiynol i weld sut y gallem gyd-gynhyrchu’n fwy effeithiol fel rhanbarth.

Fe wnaethon ni dreulio’r dydd mewn fformat ‘hac-a-thon’. Bydd hac-a-thonau’n para ryw bedair awr, ble bydd grwpiau bach yn gweithio gyda gweithiwr creadigol proffesiynol i edrych ar heriau a gweld sut i’w datrys ar y cyd mewn dull gwahanol ac arloesol.

Beth wnaeth y grwpiau fwydo’n ôl?

Yn ystod yr hac-a-thon, rhannodd y grwpiau’u profiadau a’u hadborth eu hunain ynglŷn â’r ffyrdd gorau o gyd-gynhyrchu.

Fe wnaethon nhw edrych hefyd ar sut mae cyd-gynhyrchu’n:

  • Arogli
  • Blasu
  • Swnio
  • Edrych
  • Teimlo

Ar ddiwedd y dydd, roedd pob grŵp wedi datblygu darn creadigol o waith, gan gynnwys cân, celf, syniad am ffilm, dewislen gyd-gynhyrchu a darn llafar.

O hyn ymlaen byddwn ni’n dod ynghyd fel grŵp bach i ddadansoddi’r wybodaeth, a chynhyrchu ein diffiniad a’n siarter gyd-gynhyrchu derfynol ar gyfer CTM

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu’n fuan!

Mae cynnwys ein cymunedau’n sicrhau y gallwn greu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant gwell. Gweler isod am waith cysylltiedig, a mwy o wybodaeth!

Ymuno â’n hac-a-thonau

Os hoffech ymuno â hac-a-thon yn y dyfodol, cofrestrwch yma.

Darllen mwy.

Cronfa Integreiddio Ranbarthol

Rydym wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma byddwn ni’n esbonio sut y bu i ni weithio gyda chymunedau i’w hamlygu.

Darllen mwy.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydym wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. Yma byddwn ni’n esbonio sut y bu i ni weithio gyda chymunedau i’w hamlygu.

Darllen mwy.

Cyd-gynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Gwerthfawrogi Lleisiau Cwm Taf Morgannwg drwy gydol Pandemig Covid-19’. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer dda ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cyd-gy

Lawrlwytho yma.

Rhwydwaith Gyd-gynhyrchu i Gymru

Rydym ni’n falch o fod yn aelod o’r Rhwydwaith Gyd-gynhyrchu i Gymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.