Mae’r rhaglen tai â gofal yn cefnogi partneriaid i ddatblygu llety addas ar gyfer pobl hŷn ag anghenion gofal, oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, a phobl ifanc sy’n gadael gofal.
Mae hyn yn cynnwys llety preswyl newydd ar raddfa fach i blant a phobl ifanc; llety tymor byr / canolig ar gyfer oedolion ag anghenion uwch neu heriau ymddygiadol, a lleoliadau gofal canolraddol i ofalwyr, pobl sy'n derbyn gofal a phlant sy'n derbyn gofal. Gall hefyd ariannu gofal seibiant ac adsefydlu.
Mae hyn yn cynnwys atgyweirio, adnewyddu cartrefi presennol a lleoliadau gofal eraill. Gall hefyd gynnwys rhoi cyflenwad o offer a chymhorthion, gwneud addasiadau i lety presennol a phrosiectau bach eraill gan gynnwys cymhorthion digidol a thechnolegau cynorthwyol.
Mae’r Bwrdd Cyfalaf yn cynnwys pobl o feysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a’r trydydd sector. Maen nhw’n gyfrifol am gydweithio i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth gyfalaf ranbarthol, i sicrhau bod y cyfleusterau cywir yn eu lle ar gyfer pobl sy’n byw yn y rhanbarth.
Fe wnaethon ni gefnogi Linc Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i greu cyfleuster newydd ym Mhontypridd i helpu trigolion i fyw mor annibynnol â phosibl, gyda chymorth 24/7 ar y safle.
Fe wnaethon ni gefnogi Cartrefi Cymoedd Merthyr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i greu cyfleuster hyfforddi a llety ble gall pobl ifanc fyw mewn cartref diogel a chynnes, tra’n gwella eu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Darllenwch fwy Darllenwch fwy yma.
Fe wnaethon ni gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i drawsnewid gwasanaeth dydd i bobl sy’n byw gyda dementia. Darllenwch fwy yma.
Fe wnaethon ni gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Thai Cynon Taf i greu cartrefi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae gan y fflatiau eu hrdal fyw, ystafell ymolchi a chegin eu hunain, gyda mynediad i ardal gymunedol a chefnogaeth gan staff.