Mae cyd-gynhyrchu’n dod â phobl sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd gyda phobl sy’n derbyn y gwasanaethau hynny. Y rheswm am hyn yw er mwyn iddyn nhw allu gwella gwasanaethau drwy wneud penderfyniadau a dod o hyd i atebion gyda’i gilydd.
Craidd cyd-gynhyrchu yw adeiladu perthynas a datblygu ymddiriedaeth er mwyn gallu sefydlu amgylchedd agored, gonest a thryloyw. Mae hyn yn annog pobl i freuddwydio, meddwl yn eang, gwthio ffiniau a meddwl am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio sy’n buddio pawb.
Mae’n gweithio drwy ail-gydbwyso strwythurau grym i greu maes chwarae gwastad ble gall meddyliau gwrdd, trafod a rhannu profiadau. Gall hyn helpu i oresgyn materion llosg, problemau neu rwystrau a all fodoli.
.
Sonnir yn eang am gyd-gynhyrchu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond gall ei ystyr fod yn ddryslyd ac amwys weithiau.
Os ydyn ni’n mynd i gyd-gynhyrchu’n effeithiol, mae’n bwysig fod yr ieithwedd a’r esboniad a ddefnyddir yn golygu rhywbeth i’r cymunedau rydyn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda nhw.
Drwy weithio gyda phobl sydd â phrofiadau byw, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rydyn ni wedi creu ein diffiniad ein hunain ar gyfer cyd-gynhyrchu.
Mae hyn yn rhoi llwyfan da i ni ddechrau cyd-gynhyrchu.
Ein diffiniad ni yw:
Mae cyd-gynhyrchu’n ffurf ar ymgysylltu cymunedol. Nid peth unigol mo ymgysylltu cymunedol – mae’n gallu arwain at ffurfiau gwahanol o weithgareddau a phrosesau sy’n cynnwys aelodau o’r gymuned, a phobl sydd â phrofiadau byw, mewn ffyrdd gwahanol.
Gellir gwahaniaethu rhwng ffurfiau gwahanol o ymgysylltu cymunedol drwy edrych ar ddeinameg grym. mae angen i ni ofyn i’n hunain pwy sy’n gosod yr agenda, neu agenda pwy sy’n cael ei bodloni drwy gwblhau’r gweithgaredd.
Er enghraifft, rhai o’r ffurfiau mwyaf poblogaidd o ymgysylltu cymunedol yw ymgynghori a chyfranogi.
Er na allwn ddweud bod y mathau hyn o ymgysylltu yn gyd-gynhyrchu, weithiau gallant fod y ffordd gywir o ymgysylltu â chymunedau, ac yna gall cydgynhyrchu ddod i mewn ar gam arall.
Mae’n llwyr ddibynnol ar ba ganlyniad y dymunir ei gael gan y dull o weithredu.
Mewn ymgynghoriad, y darparwyr gwasanaeth neu’r gweithwyr proffesiynol fydd yn gosod yr agenda neu’r darn o waith fynychaf. Gall aelodau’r gymuned wedyn helpu i addysgu deilliannau fel ymatebwyr – does fawr o le iddyn nhw gymryd rhan yng nghynllun gwreiddiol yr ymgynghoriad.
Mewn cyfranogiad, gall aelodau’r gymuned gael elfen o ddylanwad dros gyfeiriad y darn o waith. Serch hynny, yn yr un modd ag mewn ymgynghoriad, bydd y darn o waith hwnnw fynychaf yn cael ei lywio gan ddarparwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol.
Bydd cyfranogi’n aml yn ymddangos fel peth unigol, digwyddiad untro, grŵp ffocws, neu gyfres benodedig o grwpiau ffocws neu gyfarfodydd.
Yn y pen draw, mae gan gyfranogi elfen o ddiffiniad neu ffiniau. Mae hyn yn lleihau’r cyfle i alluogi’r broses gyffredinol i gael ei ffurfio gan syniadau, profiadau ac anghenion aelodau’r gymuned. O ganlyniad, mae perygl y gall cyfranogi ddod yn beth tocenistaidd.
Wrth inni symud i fyd cyd-gynhyrchu felly, y gwahaniaeth mawr i mi yw bod hon yn broses ble dydyn ni ddim mond yn ceisio ymgysylltu ag aelodau’r gymuned yn unig, ond hefyd gyda chyfoeth o ddarparwyr gwasanaethau amrywiol neu weithwyr proffesiynol o fewn gwasanaeth, er mwyn holi her, pwnc llosg neu rwystr o amrywiaeth o safbwyntiau.
Nid proses sy’n cael ei llywio neu ei dylanwadu gan aelodau’r gymuned yn unig mohoni, ond yn hytrach broses sydd wedi’i dylunio gyda nhw, ochr yn ochr â’r bobl gyfatebol iddynt sy’n darparu gwasanaethau, mewn amgylchedd o degwch a grym ar y cyd.
O’i wneud yn dda, mae cyd-gynhyrchu’n gallu cymryd amser, am fod hon yn daith sy’n dechrau o sawl pwynt cyffwrdd, ble gall unigolion (aelodau’r gymuned a gweithwyr proffesiynol) gymryd rhan pryd a sut mae’n gweddu orau iddyn nhw. Mae’n ymwneud â gwerthfawrogi straeon a phrofiadau pawb a’u gosod yng nghanol y gwaith, a’u defnyddio i archwilio, arbrofi a phrofi syniadau ac atebion gyda’i gilydd.
Un gyfatebiaeth rwy’n ei defnyddio’n aml i’m helpu i gofio’r gwahaniaeth rhwng ymgysylltu â’r gymuned a chyd-gynhyrchu, ac i’m helpu i ddadansoddi’r gweithgareddau rwy’n eu cynnal fel y gallaf nodi’r hyn rwy’n ei wneud, yw hyn:
Yma yng Nghwm Taf Morgannwg rydyn ni’n credu mai cyd-gynhyrchu yw’r ffordd gywir o weithio i wella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae sawl diffiniad o gyd-gynhyrchu eisoes yn bodoli, a gallem fod wedi dewis mabwysiadu rhywbeth oedd yn bodoli’n barod.
Ond roedd gennym gyfle i brofi fframwaith bosib ar gyfer gweithio’n effeithiol gyda’n gilydd, a datblygu sail ar gyfer cyd-gynhyrchu strategol i’r dyfodol.
Nod ein diffiniad a gyd-gynhyrchwyd yw dod â phobl ynghyd, er mwyn i ni allu darparu arferion cyd-gynhyrchu’n effeithiol ar draws y rhanbarth.
Rydyn ni eisiau annog pobl sydd â phrofiadau byw i fod eisiau bod yn rhan o’n taith i drawsnewid y gwasanaeth. Gallwn wneud hyn drwy adeiladu ymddiriedaeth drwy gael ymgysylltiad ystyrlon ac arloesol, sy’n lleihau dyblygu a gorflinder ymgynghori ar draws ein cymunedau.
Codwyd yr angen i gael diffiniad a gyd-gynhyrchwyd o gyd-gynhyrchu gyntaf drwy ganfyddiadau Cam Un o’n prosiect Mae Ein Llais yn Cyfri ym mis Ebrill 2020, ble cynigiwyd pum argymhelliad rhanbarthol i helpu gyda’r gwaith o wreiddio cyd-gynhyrchu ar draws y rhanbarth.
Serch hynny, gohiriwyd gwaith ar gyfer gweithredu’r argymhellion hyn oherwydd pandemig Covid-19 a’i effaith parhaus ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ym mis Medi 2021, rhyddhaodd prosiect Mae Ein Llais yn Cyfri ei adroddiad Cam Dau, gan roi mewnwelediad i’n taith gyd-gynhyrchu ranbarthol drwy gydol pandemig Covid-19.
Yn yr adroddiad hwn, adeiladodd y prosiect ar y pum argymhelliad rhanbarthol gwreiddiol i gynnig rhestr ddiweddaredig o chwe argymhelliad a seiliwyd ar yr hyn a ddysgwyd dros y 18 mis blaenorol. Y chwe argymhelliad rhanbarthol hyn oedd:
Dechreuodd ein taith i weithredu’r cyntaf o’r argymhellion hyn drwy ddatblygu ein diffiniad o gyd-gynhyrchu ym mis Medi 2022 yn ein digwyddiad hac-a-thon Cyd-gynhyrchu.
Daeth dros 60 o bobl o bob cwr o’n rhanbarth (cymysgedd o ddarparwyr gwasanaethau a phobl â phrofiad byw) ynghyd i archwilio beth oedd ystyr y term cyd-gynhyrchu iddyn nhw, a’u dymuniadau personol ar gyfer arferion cyd-gynhyrchu rhanbarthol i’r dyfodol.
Yn ogystal, ac er mwyn helpu mynychwyr i feddwl yn ehangach am y term, archwiliodd unigolion gyd-gynhyrchu drwy’r pum synnwyr, gan ystyried sut roedd cyd-gynhyrchu’n edrych, teimlo, swnio, blasu ac arogli.
Wedyn, coladwyd yr holl wybodaeth a gasglwyd yn y digwyddiad hwn, a’i gyflwyno ger bron tîm cyd-ddadansoddi llai, a hunan-gyfeiriodd, o 15 unigolyn wnaeth archwilio’r holl feddyliau a syniadau a gynigiwyd gan bobl yn yr hac-a-thon Cyd-gynhyrchu.
Drwy gyfrwng cyfres o weithgareddau, fe amlygwyd cyd-gyffredinedd geiriau, ystyr a bwriad i gyd-gynllunio’r diffiniad rhanbarthol terfynol o gyd-gynhyrchu.
Wedyn fe ymgymeron ni â chyfres o weithgareddau gwirio ystyr, gan roi cyfle i ragor o bobl fwydo i mewn a bod yn rhan o’r broses, nes i gymeradwyaeth derfynol gael ei cheisio gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sydd bellach wedi cymeradwyo mabwysiadu’r diffiniad hwn.
I gyd, cymerodd 183 unigolyn o bob cwr o ranbarth Cwm Taf Morgannwg ran mewn datblygu’r diffiniad hwn, a lansiwyd yn swyddogol ddydd Gwener 19 Mai 2023, fel rhan o Wythnos Gyd-Gynhyrchu Cymru.
Mae cam nesaf ein taith yn canolbwyntio ar hybu’r diffiniad rhanbarthol ac annog darparwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol i’w fabwysiadu. Rydyn ni hefyd eisiau grymuso pobl sydd â phrofiadau byw ar draws ein rhanbarth i ddal gwasanaethau’n atebol i’r diffiniad.
Fel rhan o’r gweithgareddau hyrwyddo hyn, byddwn ni hefyd yn edrych am gyfleoedd i ymestyn ein tîm cyd-ddadansoddi er mwyn dechrau gweithio ar weithredu’r ail o’r argymhellion rhanbarthol drwy gyd-greu a chyd-gynllunio siarter neu gytundeb gyd-gynhyrchu.
Nod hyn yw sefydlu ein gwerthoedd rhanbarthol sy’n sail i gyd-gynhyrchu a’n diffiniad, er mwyn helpu darparwyr gwasanaethau a phobl â phrofiadau byw fel ei gilydd i allu amlygu ymddygiad a gweithredoedd perthnasol drwy gyfrwng y broses ymgysylltu. Bydd hyn yn ein galluogi i ddweud a yw cyd-gynhyrchu wedi digwydd ai peidio, a sicrhau ei fod yn ystyrlon.
Ar ôl cwblhau’r siarter cyd-gynhyrchu, law yn llaw â’r diffiniad, bydd hyn yn sail i’n strategaeth gyd-gynhyrchu ranbarthol, yr ydym ni’n rhagweld fydd yn cael ei datblgyu yn 2024/2025.
Bydd hefyd yn darparu’r fframwaith ar gyfer cymuned ymarfer ranbarthol, fel yr amlinellwyd yn argymhelliad rhanbarthol tri, i weithredu ac ymestyn effaith ein harferion cyd-gynhyrchu yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth yma.
Ddim yn gallu dod, ond yn dal eisiau cymryd rhan?
Cofrestrwch yma a byddwn yn rhoi gwybod i chi
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.