Cefndir

Fe fuon ni’n edrych ar y blaenoriaethau a amlygwyd gan bobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth a thrafod beth sydd angen ei newid a’i wella, fel y gallwn ni  adeiladu cymunedau cryf a gwydn ar gyfer y dyfodol.

Canfyddiadau allweddol

Rhaid i bobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol gydweithio i ysgogi newid ystyrlon.

Yn ystod ein hac-a-thon ar hygyrchedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rhannwyd pawb yn grwpiau i edrych ar:

  • Anableddau corfforol a chymunedau hygyrch
  • Cyfathrebu hygyrch
  • Byw gyda cholli clyw

Isod rydyn ni wedi rhannu rhai o’r canfyddiadau allweddol o’r hac-a-thon.

 

Anableddau corfforol a chymunedau hygyrch

“Mae angen i bawb gydweithio i wneud iddo ddigwydd”

Bu’r tîm yn cydweithio i greu celf ac ysgrifennu cân i amlygu pwysigrwydd cymunedau hygyrch i bobl ag anableddau corfforol.

Ymysg y syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd apwyntiadau’n hawdd, a bod cymorth hygyrch ar gael pan fydd pobl yn cyrraedd
  • Sicrhau bod gwybodaeth hygyrch a chyfredol ar gael i gyd-fynd ag anghenion y person – rhaid cofio nad yw pawb ar lein
  • Argaeledd gwasanaethau gofal sylfaenol arbenigol i sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael y gofal cywir

Cyfathrebu hygyrch

“Mae angen i ni ddefnyddio cyfleusterau cymunedol i ddod â’r gymuned ynghyd”

Bu’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu sgetsys drama am eu profiadau o gyfathrebu.

Ymysg y syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Creu sianeli cyson a hygyrch ar gyfer cyfathrebu – gan gynnwys defnyddio gwahanol ddulliau gan nad yw un ateb yn addas i bawb
  • Ymgorffori cydgynhyrchu mewn ymarfer fel bod cymunedau’n dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae gwasanaethau’n cael eu hyrwyddo a’u trafod
  • Mae angen i wasanaethau a sefydliadau werthfawrogi’r defnydd o’r celfyddydau creadigol i ymgysylltu â phobl, gan ddod â’r gymuned ynghyd

Byw gyda cholled clyw

“Tynnwch y gost o adael i bobl ddysgu ein hiaith”

Lluniodd y tîm gerdd ar lafar i ddod â’u profiadau a’u syniadau yn fyw.

Ymysg y syniadau ar gyfer newid cadarnhaol roedd:

  • Mae gan Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ei hiaith a’i diwylliant ei hun – mae angen datblygu cyfathrebu gan ystyried hyn
  • Dylid cynnig opsiynau testun neu e-bost fel dull o gyfathrebu â gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol bob amser
  • Mwy o ymwybyddiaeth mewn cymunedau am fyddardod neu golli clyw i greu cymunedau sy’n ystyriol o fyddardod
  • Darparu codau QR gyda dolenni i fideos gyda chyfarwyddiadau BSL ar gyfer cael mynediad i wasanaethau iechyd, a beth sydd ynghlwm wrth weithdrefnau
  • Darparu fframwaith hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys modiwlau gorfodol
  • Sicrhau bod cymorth iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion pobl fyddar a’r rhai sy’n byw gyda nam ar eu clyw

Sut all gwasanaethau gael eu gwella?

I grynhoi, hoffai pobl ag anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau weld:

  • Codau QR ar ohebiaeth sy’n cysylltu â fideos BSL gyda chyfarwyddiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol e.e. gweithdrefnau
  • Fframwaith hyfforddi ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phobl fyddar a thrwm eu clyw
  • Gwybodaeth glir a hygyrch mewn fformatau lluosog a darparu arwyddion da mewn lleoliadau (gan gynnwys llecynnau gwyrdd)
  • Gwybodaeth yn cael ei rannu mewn fformatau sy’n addas ar gyfer pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, gan gynnwys drwy e-bost a neges destun
  • Cymorth addas yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau iechyd, er enghraifft ‘system cyfeillio’ fel y gall pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gyflym

Mae cynnwys ein cymuneda’n sicrhau y gallwn ni greu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant gwell. Gweler isod am waith cysylltiedig, a mwy o wybodaeth!

Darllenwch am ein hac-a-thonau

Darllenwch ddiweddariadau o'n hac-a-thonau eraill yma!

Darllen mwy

Cronfa Integreiddio Rhanbarthol

Bydd ein gwaith yn dylanwadu ar ein Cynllun Ardal Rhanbarthol a fydd yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.

Darllen mwy

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Rydyn ni wedi amlygu blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cymunedau yn ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth. Yma rydyn ni’n esbonio sut y buon ni’n gweithio gyda chymunedau i amlygu’r rhain.

Darllen mwy

Cydgynhyrchu mewn argyfwng

Cyd-gynhyrchu Mewn Argyfwng: Rhoi Gwerth ar Leisiau Cwm Taf Morgannwg trwy Bandemig Covid-19'. Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect Mae Ein Llais yn Cyfri, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac argymhellion ar gyfer gwreiddio cydgynhyrchu me

Lawrlwythwch yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.