cael effaith gadarnhaol ar sut mae eich anwylyd yn byw yn eich cymuned
sut mae’r person rydych yn gofalu amdano yn cael ei ddiagnosis a pha ofal a chymorth y mae’n ei dderbyn wedyn
sut rydych chi a’ch anwylyd yn cael mynediad at ofal ysbyty i chi a’ch anwylyd
sut y gall staff ddarparu gofal wedi’i deilwra’n bersonol i’ch anwylyd
Rydym am eich cynnwys chi er mwyn sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Gall eich profiadau o fod yn ofalwr i anwylyd â dementia ein helpu i ddeall pa newidiadau sydd angen eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl.
Hoffem glywed eich stori a'ch syniadau er mwyn i ni wneud pethau'n well yn y dyfodol.
Ymunwch â ni i lywio’r ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn edrych i bobl sydd â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.
Pan rydym i gyd yn dod at ein gilydd, rydym yn gwneud pethau yn well i bawb.
Mae profiad pawb o ddiagnosis yn wahanol, ond rydym am ddeall sut y gallwn wneud y daith hon yn well i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan ddementia. Mae teimlo'n gwrando arno, ei glywed a'i werthfawrogi'n hanfodol.
Cofrestrwch isod i gymryd rhan mewn digwyddiadau i helpu i lywio dyfodol gofal a chymorth dementia.
6 Gorffennaf - hasathon gwella gwasanaethau a chefnogiaeth dementia hack-a-thon
Bydd y digwyddiad yn dod â phobl yr effeithir arnynt gan ddementia a gweithwyr proffesiynol ynghyd i edrych ar y rhwystrau a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Gyda'n gilydd gallwn gynnig atebion i wella gwasanaethau.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod chi’n derbyn gwybodaeth gyfredol am bynciau sydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch ar y ddolen i ddysgu sut allwch chi gadw mewn cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, unrhyw awgrymiadau neu os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw beth, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted â phosib.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.