Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt
Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, fel y gallan nhw gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
- Helpu gofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt i gysylltu â gwasanaethau, a chael apwyntiadau mewn modd amserol
- Gwella dealltwriaeth o’r rôl ofalu, fel bod cymorth ar gael i ofalwyr cyn diagnosis, yn yr amgylchedd fwyaf addas.
- Gwella cydlyniad gwasanaethau cefnogi gofalwyr, gydag anghenion gofalwyr yn ganolog.
- Gwella’r gydnabyddiaeth o ofalwyr fel aelodau allweddol o’r tîm gofal.
- Moderneiddio’r seibiant a gynigir ar draws y rhanbarth, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd
- Gwella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd â rôl ofalu.