Sut ydych chi’n gwybod bod y blaenoriaethau hyn yn bwysig i bobl â dementia?
Rydyn ni’n gweithio’n galed i ymgynghori, ymgysylltu a chydgynhyrchu â phobl sydd â phrofiadau byw. Cafodd Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, yr ydyn ni’n gweithio tuag at eu gweithredu, eu cyd-gynhyrchu gan 1800 o bobl â phrofiad byw. Law yn llaw â hyn rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad a chyfleoedd i bobl ymuno â ni i ddylanwadu ar newidiadau i wasanaethau, a siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Rydyn ni wedi blaenoriaethu gweithio gyda phobl sydd wedi cael profiad byw a byddwn ni’n parhau â’r sgyrsiau a gawsom, a chyfleoedd i gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ein gwasanaethau wrth symud ymlaen.