Roedd hi’n hyfryd dod ag aelodau ein Grŵp Gweithredu Cymunedol at ei
gilydd unwaith eto. Mae’r grŵp dan gadeiryddiaeth Dr Tom Powell, Rheolwr Arloesi yn ein Hyb RIIC, yn dwyn ynghyd bobl sydd â phrofiadau byw, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio
ym maes iechyd, tai ein tri awdurdod lleol, sector cyhoeddus, addysg a’r trydydd sector.
Mae hi wir yn bwysig ein bod ni’n clywed cynifer o leisiau â phosib yn ein Hasesiadau. Fe wnaethon ni fyfyrio ar y grwpiau o bobl rydyn ni wedi siarad â nhw, ond hefyd pwy
arall y mae angen i ni eu cyrraedd, Mae gan aelodau ein Grŵp Gweithredu Cymunedol feysydd gwybodaeth a phrofiad eang ac amrywiol, felly roedden nhw’n gallu awgrymu’r dulliau mwyaf ystyrlon o ymgysylltu â grwpiau gwahanol ar draws ein rhanbarth.
Am fod ein gwaith ar yr asesiad yn cynnwys casglu data a chlywed lleisiau o’n cymuned, mae’n bwysig ein bod ni’n dod â’r ddau beth ynghyd i ddweud y stori’n llawn. Fel rhan
o’r cyfarfod hwn, fe wnaethon ni drafod ardaloedd daearyddol y byddwn ni’n eu targedu gyda chasglu atat, a ble arall y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt o ran ein
gweithgareddau ymgysylltu, Dyma’r ardaloedd rydyn ni’n edrych arnynt:
Ar ddiwedd ein cyfarfod, fe drafodon ni sut y gallwn weithio gyda’n gilydd fel partneriaid yn y ffordd orau bosib. Mae gan sefydliadau ar draws y rhanbarth gysylltiadau da â’n cymunedau, felly rydym wedi datblygu pecynnau offer i’w defnyddio a fydd yn galluogi sgyrsiau ystyrlon i ddigwydd er mwyn treiddio i wraidd problemau.
Bydd ein Grŵp Gweithredu Cymunedol yn cwrdd eto ym mis Tachwedd.
Roedden ni’n falch o weld aelodaeth ar gyfer ein grŵp ymgysylltu (a sefydlwyd i gefnogi ymgysylltiad ystyrlon â’n cymunedau) yn cynyddu gan 130% ym mis Medi!
Mae gennym bellach 60 aelod o bob cwr o’r rhanbarth yn cymryd rhan.
Fel y soniwyd uchod, fe wnaethon ni ddatblygu pecynnau offer i helpu partneriaid i gael sgyrsiau am flaenoriaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant gyda chymunedau.
I gefnogi’r gwaith hwn, fe lansion ni gyfres o weithdai dan y teitl ‘Yn Hyn Gyda’n Gilydd’.
Nod y gweithdai hyn yw rhannu cyngor a chynghorion gorau ar sut i gynnal gweithgareddau ymgysylltu llwyddiannus. Bydd hefyd yn gyfle i ni rannu’r hyn a ddysgwyd gennym ac ymuno,
er mwyn i ni allu sicrhau fod cynifer o leisiau â phosib yn cael eu cynrychioli yn ein hasesiadau, ein cynlluniau gwaith a thu hwnt.
Cynhaliwyd ein gweithdy cyntaf ym mis Medi. Yn y sesiwn hon fe wnaethon ni archwilio pwysigrwydd cael sgyrsiau ystyrlon, gan edrych ar iaith, chwalu jargon a
chefnogi pobl cyn, yn ystod ac ar ôl sgwrs.
Roedd hi’n wych cael cynifer o bobl o bob cwr o’r rhanbarth yn ymuno â’r sesiwn hon, a theimlo mor danbaid am eiriol dros bobl sy’n byw yn eu cymunedau.
Gallwch weld y cyflwyniad yma.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.