Y mis hwn, daeth pobl o bob cwr o’r rhanbarth ynghyd i dynnu sylw at bwysigrwydd pobl ag anableddau dysgu’n cael llaid, dewis a rheolaeth dros benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Cafodd sgetsys drama, caneuon a straeon eu hysbrydoli gan brofiadau bywyd go iawn pobl, a daethant â phwysigrwydd annibyniaeth, rheolaeth a hawliau i bobl ag anableddau dysgu yn fyw o’n blaenau.
Ymysg blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer
pobl ag anableddau dysgu mae:
Bydd gwybodaeth fanylach o dan y themâu hyn yn cael eu rhoi yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth, ac fe’i rhennir yn fuan.
Roedd hi’n wych gweld Pobl yn Gyntaf Pen-y bont ar Ogwr yn defnyddio ein pecyn offer ymgysylltu i gynnal eu gweithgaredd ymgysylltu eu hunain g ydag aelodau. Roedd hi’n bwysig i gael diwrnod oedd yn hwyl ac yn hygyrch, ac ar yr un pryd fynd i wraidd y materion sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu.
Yn ystod y dydd, canolbwyntiodd y grŵp ar themâu gan gynnwys:
cyfleoedd yn ystod y dydd; ntegreiddio cymunedol a llecynnau diogel; byw’n annibynnol a gyda chefnogaeth; eiriol, hawliau a chydraddoldeb; cyfeillgarwch; trafnidiaeth; cyfathrebu a rhannu gwybodaeth; seibiant; symud yn effeithiol o blentyndod i fod yn oedolyn; gofal iechyd a thechnoleg i gynorthwyo.
Gofynnwyd i aelodau wnaeth gymryd rhan bleidleisio ar y peth oedd fwyaf pwysig iddyn nhw –gan ddefnyddio pom poms!
Fe wnaeth hyn helpu Pobl yn Gyntaf Pen-y bont ar Ogwr i weld beth oedd yn golygu fwyaf i’r grŵp, ac ar yr un pryd alluogi pobl i fwynhau’r sesiwn a chael clust i’w lleisiau o ran beth ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol yn eu barn nhw.
Meddai Danielle Wagstaff, Gweithiwr Hyfforddi
a Datblygu gyda Pobl yn Gyntaf Pen-y bont ar Ogwr:
“Mae hi wir yn hyfryd gweld pobl yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso gyda’u hatebion, felly pan fyddwn ni’n gofyn cwestiwn i bobl rydyn ni wir yn gwrando ar yr ateb. Rydyn ni wedi gwneud tipyn o bleidleisio ac mae pleidleisiau pobl wedi gwneud gwahaniaeth. Pleidleisiodd y grŵp i ddangos mai’r pethau pwysicaf iddyn nhw, mewn gwirionedd, oedd cyfeillgarwch a pherthynas â chyfoedion.”
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.