Rydym yn dweud yn aml ‘bod profiad pawb o ddementia yn amrywio o un person i’r llall’.
Mae profiadau a thaith pawb at ddiagnosis yn unigryw. Serch hynny, mae’n bwysig gwneud y cam cyntaf hwnnw i geisio cymorth cyn gynted ag y gallwch chi.
Yn aml mae pobl yn meddwl mai colli’r cof yw’r unig arwydd bod rhywun yn datblygu dementia.
Er ei bod yn wir fod pobl yn colli cof, mae’n bwysig cofio bod symptomau eraill i gadw llygad allan amdanynt. Gall y rhain gynnwys anhawster wrth wneud tasgau cyfarwydd, problemau ieithyddol, newid mewn hwyliau ac ymddygiad neu dynnu’n ôl o weithgareddau cymdeithasol neu’r gwaith.
Mae gwiriwr symptomau defnyddiol ar gael yma.
Os ydych yn poeni amdanoch eich hun neu anwylyd, yna mae’n hanfodol eich bod yn siarad â’ch Meddyg Teulu.
Er bod y broses o gael diagnosis yn gallu amrywio ar draws rhanbarth Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr, bydd Meddygon Teulu yn gallu gwrando ar eich pryderon, a’ch cynghori ar y camau nesaf.
Mae Dr Vicky Whitbread, sy’n Feddyg Teulu ym Mhontypridd, yn rhoi syniad o’r arwyddion a’r symptomau efallai y bydd Meddyg Teulu yn holi amdanynt yma.
Os yw eich Meddyg Teulu’n credu bod angen, efallai y bydd yn cyfeirio’r unigolyn at Wasanaeth Asesu’r Cof neu at arbenigwyr cof.
Bydd y tîm yn cynnal ychydig o brofion i wirio am arwyddion o ddementia.
Efallai y bydd angen iddynt wneud profion gwaed, ECG neu sgan ar yr ymennydd, er mwyn pennu’r math o ddementia sydd gan rywun o bosib a’r ffordd orau o drin hyn.
Efallai y bydd Therapyddion Galwedigaethol eisiau sgwrs â’r unigolyn er mwyn deall sut mae’n ymdopi o ddydd i ddydd.
Er bod y broses at ddiagnosis yn gallu codi ofn ar rywun, bydd yn help i bennu’r cymorth a’r driniaeth briodol er mwyn cefnogi’r unigolyn i fyw gyda dementiaEr mwyn gallu cefnogi’r unigolyn cymaint â phosib, efallai bydd y tîm meddygol yn sgwrsio ag ef ynglŷn â’i ddiddordebau a’i fywyd o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn helpu i adnabod yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn wrth fynd drwy’r broses hon a pha gefnogaeth mae’n dymuno ei chael wrth symud ymlaen.
Mae llawer o sefydliadau ar gael a all gynnig gwybodaeth a chyngor a helpu i ddod â phobl sy’n mynd drwy’r un profiad at ei gilydd. Dylai’r bobl sy’n ymwneud â’r diagnosis allu helpu’r unigolyn i gysylltu â nhw.
Mae Hayley Wright, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer y tîm asesu cof yn y Rhondda, a Claire Maher, Nyrs Glinigol Arbenigol yn ardal Taf, yn egluro mwy yn y ffilm hon.
Mae pobl wedi dweud wrthym fod diagnosis o ddementia yn effeithio ar yr unigolyn ei hun ond hefyd y teulu cyfan.
I deuluoedd, gall fod yn anodd addasu i’r normal newydd a meddwl am yr hyn sydd ar y gorwel.
Mae awdurdodau lleol ac elusennau yn cynnig cymorth i ofalwyr. Ar ôl derbyn diagnosis, y cam cyntaf yw gofyn i’r tîm meddygol am wybodaeth ynghylch gwasanaethau lleol sy’n gallu helpu.
Gall derbyn y cymorth priodol wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad unigolyn a’i deulu o ddementia.
Mae ystod o opsiynau cymorth ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys cynghorwyr dementia, canolfannau dydd, gofal seibiant, clinigau’r cof, yn ogystal â grwpiau cymunedol lle all pobl gwrdd ag eraill sy’n mynd drwy’r un profiad am sgwrs ac, yn bwysicaf oll, i gael hwyl.
Mae nifer o sefydliadau sy’n gallu eich helpu i ddeall pa gymorth sydd ar gael, yn cynnwys cymorth ariannol.
Ar draws ein rhanbarth mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer’s, Age Connects Morgannwg a Chyngor ar Bopeth ochr yn ochr â chymorth gan awdurdodau lleol a gweithwyr Gwasanaethau Cof a ddarperir gan y bwrdd iechyd.
Mae dementia yn parhau i gael ei weld gan rai fel cyflwr y dylid ei gadw’n gyfrinach.
Gall pobl deimlo ar gyfeiliorn ac yn unig iawn pan fyddant yn cael eu diagnosis, a gall fod yn anodd iawn gwybod sut mae addasu i ffordd o fyw wahanol.
Rydym yn gweithio’n galed i greu mwy o gymunedau ystyriol o ddementia.
Ochr yn ochr â mentrau fel Wythnos Gweithredu ar Ddementia, rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn ein gwaith i wella gofal a chymorth dementia.
Fel rhan o’n hymgyrch ‘cyfoethogi bywydau drwy godi safonau a gwella gofal dementia’, rydym yn awyddus i ymgysylltu â’n cymunedau i ddeall eu teithiau a dod ynghyd i greu datrysiadau i’r rhwystrau maent wedi eu hwynebu.
Nid yw pobl ar eu pen eu hunain, ac mae cymorth ar gael.
Rydym yn awyddus i glywed eich stori a’ch syniadau fel bod modd i ni wella pethau yn y dyfodol.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.