Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion CBSMT, Angela Edevane, “Rydyn ni yn hynod falch bod Uned Ddydd Dementia Tŷ’r Enfys wedi derbyn yr Achrediad Eithriadol. Mae Gofal Ystyrlon yn Bwysig gan ddangos gofal Dementia eithriadol yr wythnos hon.
“Tŷ’r Enfys yw’r gwasanaeth cyfunol Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyntaf yn y DU i dderbyn yr achrediad hwn. Mae yn ganlyniad i weithio ar y cyd rhwng CBSMT,BIPCTM a Thîm Comisiynu Rhanbarthol – sydd o fewn Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg – a Llywodraeth Cymru trwy raglen CGI.
“Mae Tŷ’r Enfys yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl yn byw gyda dementia wrth gefnogi gofalwyr ar draws Merthyr Tudful a Chynnon i’w galluogi i barhau â’u rȏl ofalu.
“Mae’r llwyddiant hwn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ac ymdrech ddiflino’r tîm yn Nhŷ’r Enfys i droi’r achrediad yn realiti.”
Dwedodd Julie Denley Cyfarwyddwr Gofal Cychwynnol ac Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae Tŷ’r Enfys yn wasanaeth pwysig sy’n cyfrannu at gefnogi pobl gyda dementia i fyw gartref cyhyd â phosib trwy eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae’r ailgynllunio yn arbennig ond mae ennill yr achrediad yn ardystiad o ymrwymiad pawb i sicrhau bod profiadau pobl yr un mor arbennig.”