Mae Jackie Prosser, sy’n gweithio gyda Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), yn cydlynu rhwydwaith o 165 sefydliad cymunedol sy’n cefnogi plant a theuluoedd bregus.

Gan weithredu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r sefydliadau hyn yn helpu teuluoedd i gael mynediad i wasanaethau hanfodol, cryfhau’u gwytnwch, ac adeiladu cysylltiadau ystyrlon yn eu cymunedau.

Drwy gyfrwng rhaglen hunan-asesu NYTH/NEST, enillodd Jackie fewnwelediad newydd i gynllunio a gweithio mewn partneriaeth – gan sicrhau fod lleisiau ac anghenion plant a phobl ifanc yn parhau i fod wrth galon popeth y mae hi’n ei wneud.

Mae Fframwaith NYTH/NEST – sy’n golygu "rhoi Nerth, Ymddiried, Tyfu’n ddiogel a Hybu" – yn fenter gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r fframwaith yn hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar drawma ac sy’n canolbwyntio ar y person o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i blant a theuluoedd.

Mae sefydliadau’n cael eu hannog i ddefnyddio offeryn hunan-asesu NYTH/NEST i fyfyrio ar eu gwasanaethau a gwella’r modd y maen nhw’n cefnogi babis, plant, pobl ifanc a rhieni i gael mynediad i ofal a chefnogaeth sydd wedi’i deilwra i ateb eu hanghenion.

Yn ôl Jackie:

“Mae’r rhaglen hon wedi newid fy safbwynt yn llwyr. Mae’n bwysig sicrhau fod llais pob plentyn yn cael ei glywed a’i roi wrth ganol popeth a wnawn. O wella ymgynghori i amlygu bylchau, gweithio’n holistig, a chysylltu teuluoedd â’r gefnogaeth gywir, mae’n ymwneud ag adeiladu dull cyson, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ar draws ein rhwydwaith gyfan.”

Yn dilyn y broses, mae Jackie wedi hybu ymwybyddiaeth o becyn offer NYTH/NEST, ac mae ganddi uchelgais i sicrhau fod yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â’i rhwydwaith hi’n ymgymryd â’r hyfforddiant.

Yn dilyn y broses, mae Jackie wedi hybu ymwybyddiaeth o becyn offer NYTH/NEST, ac mae ganddi uchelgais i sicrhau fod yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â’i rhwydwaith hi’n ymgymryd â’r hyfforddiant.

Daw’r gwelliant hwn wrth i BAVO, sy’n cynrychioli 550 o elusennau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol ledled Pen-y-bont ar Ogwr, ddod yn Gyngor Gwirfoddol Sirol cyntaf Cymru i gwblhau hunan-asesiad  NYTH/NEST.

Cefnogir sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, a Merthyr Tudful i gwblhau’u hasesiadau NYTH/NEST drwy gyfrwng Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, sy’n hyrwyddo cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Mae’r hyfforddiant, a arweinir gan Gydlynydd NYTH/NEST Rhanbarthol CTM, Stacy Chamberlain, yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, ymarferion myfyriol, a sesiynau cynllunio cydweithiol a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i wreiddio egwyddorion a addysgir gan drawma, ac sy’n canoli ar yr unigolyn, i mewn i ymarfer beunyddiol.

Hyd yn hyn, mae 13 sefydliad ar draws y rhanbarth wedi cwblhau’u hunan-asesiad NYTH/NEST, a disgwylir i ragor ddilyn wrth i’r fframwaith barhau i gael ei gyflwyno.

Dywedodd Stacy Chamberlain:

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni, fel rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, wedi ymroi i greu gwasanaethau cynhwysol, ymatebol ac emosiynol feithriniol ar gyfer plant a theuluoedd. Mae ein strategaeth blant System Gyfan: Calon Gyfan, a lansiwyd yn ddiweddar, yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio fel un system gysylltiedig, ac mae Fframwaith NYTH/NEST yn offeryn hanfodol o ran cyflawni hynny. Roedd hi’n bleser hyfforddi Jackie a’r tîm – mae ymroddiad BAVO i gydweithio a rhoi anghenion plant yn gyntaf yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Ychwanegodd Mille Boswell, Arweinydd Gweithredu NYTH/NEST yn Llywodraeth Cymru:

“Mae hi’n wych gweld gweithwyr proffesiynol fel Jackie’n mabwysiadu Fframwaith NYTH/NEST i’w hymarfer beunyddiol, Mae’r Fframwaith yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mae’n hybu dull system gyfan sy’n meithrin, yn grymuso, yn ddiogel ac sy’n cael ei ymddiried – gan sicrhau fod babis, plant, pobl ifanc, a’u teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir. Drwy wreiddio’r egwyddorion hyn, gallwn ni greu gwasanaethau sydd wir yn rhoi lleisiau ac anghenion plant wrth galon cynllunio a darparu. Yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n cydnabod a gwerthfawrogi’r cynnydd y mae rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi’i wneud o ran codi proffil y fframwaith, ac rydyn ni’n falch o’i weld fel offeryn sy’n gosod sail o fewn i’w strategaeth System Gyfan: Calon Gyfan i blant.” 

Ydych chi wedi'ch lleoli yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, ac hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am gwblhau hunanasesiad NYTH/NEST?

Mynegwch eich diddordeb drwy’r ffurflen hon.

Gellir cael gwybodaeth am Fframwaith NYTH/NEST yma: https://www.llyw.cymru/fframwaith-nyth-iechyd-meddwl-lles-cyflwyniad

Dysgwch ragor am strategaeth System Gyfan: Calon Gyfan yma:  https://ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/childrenstrategy/

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.