Gofal a seilir yn y gymuned – atal a chydlynu cymunedol
Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cymunedol sy’n helpu i warchod preswylwyr rhag problemau iechyd neu lesiant mwy hirdymor, gan gynnwys grwpiau cyfeillio, hybiau cymunedol, atal cwympo, a mynediad i wasanaethau llesiant.
Gofal yn y gymuned – gofal cymhleth yn nes at gartref
Bydd hyn yn helpu i wella’n fwy ar ôl cyfnod o salwch, gan helpu pobl i fod yn fwy annibynnol yn y tymor hir. Gallai cefnogaeth gynnwys help gartref gan dimau arbenigol sy’n gweithio yn y gymuned ac adferiad yn y gymuned.
Hybu iechyd a llesiant emosiynol da
Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn ein cymunedau’n flaenoriaeth. Bydd hyn yn helpu i greu a gwella gwasanaethau ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth gydag iechyd a llesiant emosiynol.
Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, a gofal therapiwtig i blant sydd wedi profi’r system gofal
Bydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn gweithio gyda’i gilydd gyda theuluoedd i’w helpu i aros gyda’i gilydd yn ddiogel ac atal yr angen i blant orfod derbyn gofal.
Gwasanaethau adref o’r ysbyty
Bydd rhai pobl wastad angen cael triniaeth mewn ysbyty, felly bydd hyn yn helpu pobl i gael eu rhyddhau ac i wella gartref yn ddiogel a sydyn. Mae hefyd yn sicrhau fod pobl sydd angen gofal aciwt yn gallu cael ato’n hawdd.
Atebion ar sail llety
Mae’n hanfodol fod gan bobl amgylchedd byw cynnes, diogel a chefnogol. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfleusterau byw annibynnol, trefnu addasiadau i gartrefi ac adeiladu llety i blant ag anghenion cymhleth.