I nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant ym mis Chwefror 2022, gweithiodd Hwb RIIC CTM gyda Chymdeithas Dai Newydd a Hwb RIIC Caerdydd a’r Fro i lansio ‘Her Cam Ymlaen’.
Gwelodd her ‘Cam Ymlaen’ arddegwyr yn tracio 12.5k o gamau, sy’n gyfystyr â 10km yn gyfnewid am bwyntiau i’w gwario ar weithgareddau llesiant neu fwydydd iach.
Cynhaliwyd yr her drwy brosiect Get Fit Cymru Cymdeithas Dai Newydd, rhaglen rad ac am ddim sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i wella’u llesiant corfforol a meddyliol.
Fe wnaethon ni weithio gyda’n partneriaid i ymgysylltu ag ysgolion lleol, a chymerodd dros 100 o bobl ifanc ran i gyd, gan gerdded cyfanswm o 125,000 o gamau.
Rhoddwyd sylw i’r her ar Newyddion ITV Wales ar yr amser brig ar nos Wener, ac o ganlyniad mae mwy o ysgolion wedi holi ynglŷn â chymryd rhan yn Get Fit Cymru.
Os ydych chi’n adnabod person ifanc neu ysgol a allai fod â diddordeb mewn ymuno â Cadw’n Heini Cymru, ewch i yma.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.