Roedd Tracey a'i gŵr Brian yn mwynhau bywyd heini gyda'i gilydd, gan deithio'n rheolaidd, mynychu ralïau beics ac ymweld â mannau fel Porthcawl a Llanfair-ym-Muallt

Newidiodd popeth ar amrantiad pan, ar wyliau, dychwelodd Tracey o daith sydyn i’r archfarchnad a gweld arwyddion fod Brian yn cael strôc. A hithau wedi’i gefnogi drwy strociau yn y gorffennol, roedd hi’n gwybod yn union beth i edrych amdano.

“Dim ond taro i Morrisons wnes i, a phan ddes i nôl ro’n i’n gallu gweld fod ei wyneb wedi disgyn,” esboniodd Tracey. “Fe ddwedais i wrtho fe, ‘gwena arna i,’ ac yna es i ag e ar unwaith i’r ysbyty.”

Dirywiodd cyflwr Brian yn sydyn, a disgrifiodd Tracey’r misoedd nesaf fel llethol a gofidus, yn enwedig pan gafodd e ei anfon adref ar ôl chwe mis yn yr ysbyty. Roedd pwysau emosiynol dod yn ofalwr yn sylweddol, wrth iddi ysgwyddo cyfrifoldebau fel rheoli’i feddyginiaeth, offer bwydo a gwneud penderfyniadau anodd ar yr un pryd â delio â’i theimladau ei hunan.

“Fe oedd fy ngofalwr i cyn hyn,” meddai hi. “Yn sydyn roedd yr holl offer yma’n dod i’r tŷ, ac ro’n i mewn panic wrth feddwl, ‘Sut ydw i’n mynd i ymdopi?

“Ond ar ôl pythefnos, fe gollais i arnaf fy hunan go iawn… Ro’n i’n meddwl, ‘ydw i’n gwneud digon? Ydw i’n gwneud pethau’n iawn?’ Roedd y cyfan yn codi cymaint o ofn ar y dechrau.”

Yn dilyn trafodaethau gyda'r tîm strôc, cyfarfu'r tîm profiad cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM UHB) â Tracey i glywed ei stori a gweithio'n agos gyda hi i sicrhau fod ei llais a'i safbwynt yn cael ei glywed yn llawn.

Roedd ei phrofiad hi’n amlygu pwysigrwydd darparu gwybodaeth amserol am gefnogaeth i ofalwyr, yn ystod cyfnodau yn yr ysbyty, ac ar ôl i’r claf ddod adref, yn ogystal â’r gwasgfeydd ariannol a’r teimlad o fod yn ynysig y gall gofalwyr orfod ymdopi ag ef.

“Mae’r Gymdeithas Strôc wedi bod yn rhagorol ers iddo fe ddod adre,” meddai Tracey.

“Ond pan o’n i yn yr ysbyty gyda fe, wnaeth neb ddweud wrtha i pa gefnogaeth oedd mas yno i fi. Do’n i ddim yn gwybod fod llinellau ffôn na phobl oedd wedi bod drwy’r un peth… Fe gafodd Brian gefnogaeth lawn yn yr ysbyty. Alla i ddim â beirniadu gronyn ar hynny. Ond mae rhywun yn teimlo ar ei ben ei hunan. Rydych chi’n teimlo’n unig a heb neb o’ch cwmpas.”

Mewn ymateb, mae David Watkins, Arweinydd Corfforaethol Gofalwyr yn CTM UHB – swydd a ariennir drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol – wedi cydweithio gyda staff ac uwch nyrs yn y ward i arwain gwelliannau i’r ffordd y mae gofalwyr yn cael eu cefnogi yn ystod arhosiad ac ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.

Meddai David:

“Mae stori Tracey a Brian wedi atgyfnerthu pwysigrwydd cydnabod gofalwyr fel partneriaid gofal, a sicrhau eu bod nhw’n teimlo ei bod wedi cael digon o wybodaeth, cefnogaeth a chynhwysiant drwy gydol taith y claf.

“Tra bo profiad Tracey wedi tynnu sylw at feysydd ble roedd angen gwella, mae hefyd wedi dod yn enghraifft rymus o’r modd y gall gwrando ar leisiau gofalwyr roi siâp uniongyrchol ar wella gwasanaethau a chryfhau cefnogaeth i ofalwyr di-dâl ar draws y rhanbarth.”

Mae gwelliannau bellach yn cael eu gweithredu ar draws y rhanbarth, gan gynnwys peilota Pasbort Gofalwyr, amlygu gofalwyr yn well adeg mynd â chlaf i'r ysbyty, a gwell mynediad i gefnogaeth a gwybodaeth.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i gryfhau cefnogaeth o’r pwynt pan dderbynnir diagnosis, ac i sefydlu caffis gofalwyr tu fewn i leoliadau ysbytai.

Un canlyniad cadarnhaol o’r profiad hwn yw’r ffaith fod Tracey wedi dal ati i fod yn rhan o gefnogi eraill. Mae hyn yn cynnwys mynychu caffi gofalwyr yn yr ysbyty ble buodd hi’n rhannu ei stori hi a Brian, a’r hyn ddysgon nhw, gyda chleifion a gofalwyr. Mae Tracey bellach yn gweithio gyda’r Gymdeithas Strôc, gan gynnig cefnogaeth dros y ffôn i gleifion a gofalwyr sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg.

Er bod y profiad yn heriol iddi, canfu Tracey fod rhannu’i stori wedi bod o gymorth iddi, ac yn brofiad cathartig, yn enwedig o wybod y gallai hynny gefnogi pobl eraill.

Dywedodd Tracey:

“Os galla i helpu un person i ddod drwy’r profiad, mae’n werth chweil. Mae’r hyn rydych chi’n ei deimlo’n normal, Does dim ‘cywir’, does dim ‘anghywir’. Wynebwch bopeth un dydd ar y tro, ac os na allwch chi wneud hynny, wel, awr ar y tro amdani. Ac fe ddewch chi drwyddi.”

Yn ystod Wythnos y Gofalwyr (8fed-14eg Mehefin), mae sefydliadau ledled y rhanbarth yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i ofalwyr. Cysylltwch â’ch grwpiau cymunedol lleol i gael gwybod mwy.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.