Cefnogi pobl sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw
Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sy’n aros am ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu ‘aros yn iach’.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
- Sicrhau bod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn cael eu hintegreiddio’n well, fel nad yw pobl yn cael eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau lluosog heb gymorth a chefnogaeth ddigonol.
- Sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi yng nghanol cynllunio gofal a chymorth ac yn derbyn y gwasanaethau perthnasol.
- Sicrhau bod gwybodaeth allweddol ar gael yn hawdd fel bod pobl yn fwy ymwybodol o’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt.
- Gwella mynediad at gymorth, gan gynnwys hunan-atgyfeirio a chyfeirio gan Feddyg Teulu, i gyflymu diagnosis posibl a gweld pawb yn dechrau triniaeth yn gynt.