Cefnogi gofalwyr i fwynhau iechyd a llesiant da
Rydyn ni eisiau sicrhau bod gofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt yn gallu byw bywydau iach, sydd o fudd i’w llesiant emosiynol a chorfforol.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
- Diogelu hunaniaeth gofalwr fel person yn ei rinwedd ei hun gan gynnwys mwy o gefnogaeth i ofalwyr ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
- Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ofalwyr fel eu bod nhw’n fwy gwybodus am y gwasanaethau a’r gweithgareddau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
- Darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar, gan liniaru rhag gweld gofalwyr yn cyrraedd pwynt argyfwng.