Er mwyn i wasanaethau fod yn hygyrch i bobl hŷn yn eu cymunedau
Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gymryd rhan mewn gwasanaethau yn eu cymunedau, cyfrannu atynt a chael mynediad iddynt.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o fewn cymunedau ar draws ein rhanbarth
- Datblygu cymunedau cynhwysol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau
- Gwella rhannu gwybodaeth a chynyddu nifer y cyfleoedd cymdeithasol sydd ar gael i bobl hŷn