I bobl hŷn gael mynediad i’r wybodaeth a’r arweiniad cywir
Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella ymwybyddiaeth o gamau cynnar dementia, a sut i gael diagnosis a chymorth
- Gwella mynediad at wybodaeth fel y gall pobl ddeall yn well sut y gallan nhw gefnogi rhywun â dementia
- Datblygu lleoedd diogel fel y gall pobl fynychu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymunedau
- Creu dull gweithredu rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Sicrhau bod cymorth teg ar gael ar draws ein rhanbarth