Datblygu mannau cymunedol ble gall plant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel a chael hwyl
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaethau perthnasol i wella mynediad ac argaeledd mannau cymunedol i blant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.
Trwy’r gwaith hwn, rydym ni’n gobeithio:
- Gwella argaeledd a mynediad i wybodaeth allweddol fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt
- Gwella trefniadau trafnidiaeth gyhoeddus
- Cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun mannau diogel cymunedol i bobl ifanc