Darparu ymagwedd ‘system gyfan’ well ar gyfer cymorth iechyd meddwl
Rydyn ni eisiau dod â phobl sydd â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol ynghyd i ddatblygu dull a fydd yn gwella’r system iechyd meddwl yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na meysydd unigol.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
- Deall rhychwant ac angen cymorth iechyd meddwl ar hyn o bryd yn well, o gymorth ataliol i gymorth arbenigol.
- Uwchsgilio staff / gweithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth fel y gallant gefnogi pobl (yn briodol) i gyflawni iechyd meddwl a lles da.
- Gwella cefnogaeth arbenigol i’r rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl.