Rachel Honey-Jones
Job Title: Pennaeth Adfywio Cymunedol, Cymdeithas Tai Newydd
Fi yw Pennaeth Adfywio Cymunedol ac Arweinydd Diogelu Dynodedig Cymdeithas Tai Newydd.
Rwy’n ystyried fy rôl ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn llefarydd ar ran y sector tai cymdeithasol. Rwy’n hynod o frwdfrydig am y sector ac rwy’n sicrhau bod tai yn gwneud y cysylltiadau â’r partneriaid strategol o amgylch y bwrdd.
Y tu hwnt i fy swydd, rydw i hefyd yn Is-gadeirydd Bwrdd Cartrefi Cymoedd Merthyr, sef sefydliad tai cydfuddiannol tenant a gweithiwr cyntaf Cymru. Yn ogystal â hynny, rwy’n aelod o Fwrdd HACT ac yn aelod o Banel Dyfodol Tai CIH Cymru. Cyrhaeddais i rownd derfynol y 24 o Arweinwyr Ifanc ym maes Tai yn 2015 hefyd.