Sarah Mills
Job Title: Pennaeth yr Uned Gomisiynu Rhanbarthol
Rydw i a fy nhîm yn cefnogi trefniadau llywodraethu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yn cydlynu cyfarfodydd ac agendâu. Rydym ni hefyd yn cydlynu ffrydiau cyllid gan gynnwys y Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Drawsnewid. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn dod ag ystod o bartneriaid ynghyd ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol i gynllunio gwasanaethau integredig, er mwyn gwella gwasanaethau i bobl sy’n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg. O wneud hynny, gallwn ni rannu arfer gorau a dysgu. Mae ffocws o’r newydd ar gyflawni pethau ar y cyd ac ar drafod â dinasyddion, fel bod llais dinasyddion yn cael ei barchu a’i glywed.