Linda Prosser
Job Title: Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Rwy’n Swyddog Gweithredol profiadol yn y GIG. Rwyf wedi gweithio ar lefel uwch mewn sawl sector arall hefyd gan gynnwys Awdurdod Lleol a’r Sector Gwirfoddol. Oherwydd hyn oll mae gennyf ddealltwriaeth dda o’r GIG, y sector cyhoeddus a’r cyd-destun gwleidyddol ehangach, a sut y bydd systemau’n ael eu cynnal a’u rheoli.
Hyfforddais fel Ffisiotherapydd gan arbenigo mewn gofal ar ôl strôc, cyn cymryd at swyddi Rheolaeth Gyffredinol ym meysydd meddygaeth, opthalmoleg a gwasanaethau cymunedol.
Wedyn aeth fy ngyrfa â mi i wneud gwaith comisiynu gyda sawl sefydliad yn ne orllewin Lloegr, ac yn y pen draw at NHS England. Ar un pwynt, roeddwn yn gomisiynydd i bedwar cant o feddygfeydd teulu.
Treuliais ychydig dros ddwy flynedd fel Prif Swyddog CCG Swydd Wiltshire ac rwyf wedi gwneud gwaith aseiniol fel ymgynghorydd.
Ers 2021, bûm yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda’r nod o sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn ateb anghenion iechyd y boblogaeth yn y ffordd orau.