Y Cynghorydd Huw David
Job Title: Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cefais fy ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref 2016 ar ôl gwasanaethu fel y Dirprwy Arweinydd ers 2015. Cefais fy mhenodi’n Aelod o’r Cabinet am y tro cyntaf yn 2008.
Fi yw Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Trwy’r rôl genedlaethol hon, rwy’n aelod o Grŵp Cyfeirio Arbenigol Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) ac o Grŵp Cynghori Gweinidogol y Grŵp Llywio Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant.