Rachel Rowlands
Job Title: Prif Swyddog Gweithredol, Age Connects Morgannwg
Fi yw Prif Swyddog Gweithredol Age Connects Morgannwg, sef elusen ranbarthol sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Rydw i wedi bod yn y swydd hon ers 2005. Yn ogystal â hynny, rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol Age Connects Wales, sef elusen gofrestredig sy’n gweithio ledled Cymru trwy brosiectau a gwasanaethau partneriaeth genedlaethol. Yn 2017, cefais fy ethol yn Gynrychiolydd Cenedlaethol y Trydydd Sector i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, a dod yn Gadeirydd ym mis Mai 2018 a chael fy ailethol yn Gadeirydd am y drydedd flwyddyn ym mis Mai 2020. Rydw i hefyd yn Arweinydd Partneriaethau Cenedlaethol y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) ac yn Arweinydd y Llif Gwaith Diogelu ar gyfer Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu’r rhanbarth.