Penodi Is-Gadeiryddion ar gyfer Grŵp Llywio Rhanbarthol Dementia Cwm Taf Morgannwg
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi penodi Ceri Higgins a Jonathan Long yn Is-Gadeiryddion Grŵp Llywio Rhanbarthol Dementia Cwm Taf Morgannwg.
dementia, ac mae hi wedi cefnogi sawl aelod o’i theulu ag anghenion iechyd cymhleth dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Mae ei thaith bersonol wedi’i ffurfio’n eiriolwr angerddol dros well gwasanaethau dementia a chefnogaeth i ofalwyr.
Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethu fel cynrychiolydd gofalwyr ar Grŵp Dementia Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru, bod yn aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Cwm Taf, gwirfoddolwr hwyluso grwpiau gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru, a chyd-sefydlydd Lleisiau Dementia – grŵp sy’n allweddol o ran creu Cynllun Gweithredu Dementia i Gymru.
Fel sylfaenydd Troi Ponty’n Las – ymgyrch flynyddol sydd â’r nod o roi sylw i’r cyflwr – mae Ceri’n angerddol am sicrhau fod pobl â dementia’n cael eu trin â thosturi, a’i bod yn cael cefnogaeth i gadw i fwynhau eu diddordebau. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio am radd Meistr mewn Dementia, sy’n helpu i ddyfnhau’i dealltwriaeth er mwyn cryfhau’i gwaith eiriol.
Fel Rheolwr Gwasanaethau Lleol dros Gymdeithas Alzheimer’s Cymru ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, mae e’n arwain tîm o ymgynghorwyr dementia sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, neu’n aros am ddiagnosis.
Mae’r Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol, sy’n gweithredu o fewn Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, a phobl â phrofiadau byw.
Gyda disgwyl y bydd 1 o bob 3 o bobl a enir ym Mhrydain heddiw yn cael diagnosis o ddementia yn ystod eu hoes, mae’r Grŵp Llywio’n chwarae rhan hanfodol o ran codi ymwybyddiaeth a gwella cefnogaeth gysylltiedig ar draws y rhanbarth.
Mae’i feysydd sylw’n cynnwys:
Fel Is-Gadeiryddion, bydd Ceri a Jonathan yn cefnogi’r Cadeirydd Kelvin Barlow i arwain y Grŵp Llywio, gan sicrhau y bydd aelodau’n cyfrannu o’i harbenigedd a’u hamser er mwyn darparu gweithredoedd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau dementia’r rhanbarth.
“Mae hon yn eiliad hynod bwysig ar gyfer y Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol. Dwi’n credu yn y dywediad: ‘dim byd amdanom ni, hebom ni’ oherwydd mae cael rhywun sy’n meddu ar brofiad byw mewn rôl strategol, sy’n gwneud penderfyniadau, yn amhrisiadwy. Rhaid i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr gael eu gweld fel partneriaid cyfartal wrth lunio’r gwasanaethau sy’n effeithio ar eu bywydau
“Mae cyd-gynhyrchu’n gonglfaen i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac rydw i wedi ymroi i sicrhau nad dim ond egwyddor mo hynny ond ymarfer hefyd. Yn y rôl yma, fe fydda i’n defnyddio fy angerdd a phrofiad i yrru newid ystyrlon a dal pob partner yn atebol.”
“Mae cefnogaeth i ddementia’n mynd ymhellach na gofal clinigol – mae’n emosiynol, yn ymarferol, ac yn eithriadol bersonol Mae’r trydydd sector, gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl a theuluoedd cyn iddyn nhw gael diagnosis ac wedyn.
“Dwi’n angerddol o blaid taclo anghydraddoldebau iechyd a hyrwyddo gofal cynhwysol, sy’n canoli ar yr unigolyn, felly mae’n fy ysbrydoli i weld y Grŵp Llywio Dementia’n uno clinigwyr, darparwyr gwasanaethau, a phobl â phrofiad byw er mwyn gwella gwasanaethau a chefnogaeth. Gan weithio law yn llaw â Ceri, fy nod yw dod â lleisiau cefnogaeth anghlinigol i mewn i’r broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau fod sbectrwm cyfan anghenion pobl yn cael ei gydnabod a’i barchu.”
“Rydyn ni’n adeiladu rhanbarth ble gall pawb – waeth beth fo’u cod post – yn gallu cael mynediad i’r gofal a chefnogaeth dementia maen nhw’n ei haeddu. Gyda dementia’n effeithio ar gynifer o fywydau ledled Cymru, rhaid i’n mannau gwneud penderfyniadau yrru newid gwirioneddol, nid dim ond sgyrsiau.
“Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Ceri a Jonathan fel cyd-Is-Gadeiryddion. Bydd eu mewnwelediad a’u hegni’n ein herio ni, yn ysbrydoli arloesi, ac yn helpu i sicrhau ein bod ni’n darparu ar y Cynllun Gweithredu Dementia a’r Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan – gan ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth a ddisgwylir gan ein cymunedau.”
I gael mwy o wybodaeth am waith Grŵp Llywio Dementia Cwm Taf Morgannwg, ewch i: https://ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/priority-areas-dementia/
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.