Rhannodd Lowri Morgan, Rheolwr Rhaglen Demensia ar gyfer Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg:
“Gwyddom pa mor hanfodol yw i bobl sydd â dementia deimlo eu bod wedi’u gweld, eu clywed a’u derbyn yn y gymuned. Nid yw diagnosis yn diffinio rhywun, a gyda’r cymorth cywir, dylent fod yn gallu mwynhau’r gweithgareddau, hobïau ac anghenion a wnaethant bob amser.
Fel partneriaeth, rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn weithredol ar sut y gallwn greu amgylcheddau diogel a chroesawgar ar gyfer pobl sydd â dementia a’u teuluoedd. Yn y pen draw, mae pobl yn dymuno teimlo y bydd eu hanghenion yn cael eu bodloni a’u deall, pa bynnag le maen nhw’n dewis mynd i – pa un ai cafi, parc, neu grŵp cymunedol. Rwy’n falch o weld ymrwymiad pawb i godi ymwybyddiaeth am dementia, a chreu cymunedau sy’n gofalu.”
Ffilm Ceri
Gwyliwch Ceri yn siarad am Troi Ponty yn Las yma
Cymryd Rhan
Yn poeni am symptomau?
Dysgu mwy am arwyddion dementia yn y canllaw defnyddiol hwn gan Bartneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.
Ewch i: Cymdeithas Alzheimer Cymru
Rhannwch eich barn:
Cymrwch ran yn llunio dyfodol cymunedau sy’n ffrind i ddementia trwy gwblhau’r arolwg byr hwn.
Eisiau cymryd rhan?
Os hoffech helpu i greu cymunedau sy’n ffrind i ddementia ar draws Cwm Taf Morgannwg, llenwch y ffurflen gyflym hon.