Mae Get Fit Cymru’n rhaglen rad ac am ddim sy’n annog pobl ifanc i fabwysiadu arferion byw iach. Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen yn tracio’u camau i ennill ‘pwyntiau’ ar gyfer eu gwario mewn busnesau ar draws De Cymru. Er enghraifft, gellir defnyddio 12k o gamau (10km) i’w wario ar bryd bwyd iach yn yr ysgol, neu ddosbarth cadw’n heini.
Dechreuodd Hwb RIIC weithio gyda Thai Newydd a thîm prosiect HAPI ar Get Fit Cymru yn ystod y pandemig. Mae data diweddar gan Brifysgol Caerdydd yn dangos fod un o bob pump (19%) o bobl ifanc Cymru wedi profi problemau iechyd meddwl cyn y pandemig, a dangosodd astudiaeth arall mai dyma’r grŵp a welodd y dirywiad mwyaf mewn llesiant meddyliol o ganlyniad i COVID-19
Rydyn ni wedi gweithio gyda Chymdeithas Dai Newydd a HAPI i gynnal peilot llwyddiannus ar gyfer Get Fit Cymru ar draws pum ysgol ym Merthyr Tudful a Chaerdydd a’r Fro.
Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn – mae plant wedi mwynhau gwario pwyntiau a enillwyd drwy ymarfer ar bethau fel bwyd iach yn y ffreutur, pasys neidio’r ciw yn yr ysgol a ffrwythau a llysiau rhad ac am ddim yn lleol. Hoffem gynnal ac ehangu’r cyfleoedd hyn.
I nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant ym mis Chwefror 2022, fe weithion ni gyda Newydd, HAPI a Hwb RIIC Caerdydd a’r Fro i lansio Her Codi Camau.
Roedd yr Her Codi Camau’n 10k rhithiol i gael plant i symud ac ennill mwy o bwyntiau. roedd pawb wnaeth gwblhau’r her yn ennill 10 pwynt, i’w cyfnewid am eitemau fel dau bryd bwyd iach yn ffreutur yr ysgol, neu bas i fynd i’r gampfa.
Fe weithion ni gyda’n partneriaid i ymgysylltu ag ysgolion lleol, a chymerodd dros 100 o bobl ifanc ran i gyd, gan gerdded cyfanswm o 125,000 cam.
Rhoddwyd sylw i’r her ar Newyddion ITV Wales ar yr amser brig ar nos Wener, ac o ganlyniad mae rhagor o ysgolion wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn Get Fit Cymru.
Rydyn ni wedi dod o hyd i bartneriaid newydd i gefnogi gyda chyflwyno’r cynllun ledled Cymru. Gan weithio law yn llaw â Newydd, Hwb RIIC Caerdydd a’r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru a byrddau iechyd rhanbarthol ac arbenigwyr cymunedol, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar greu porth digidol newydd ble gall llawer mwy o gyfranogwyr gael mynediad i Get Fit Cymru.
Fel rhywbeth cydweithredol, ein nod yw chwilio am gyllid i ddatblygu a thyfu cynnig Get Fit Cymru, ac ar yr un pryd werthuso’r effaith gadarnhaol y mae gwneud ymarfer corff rheolaidd yn ei gael ar iechyd, hapusrwydd a llesiant.
I gael mwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan yn Get Fit Cymru, cliciwch yma.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.