Sut y byddwch yn bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl?
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y Bwrdd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau i symud y gwaith hwn ymlaen dros y pum mlynedd nesaf.
Gyda’n gilydd byddwn ni’n edrych ar sut y gellir cyflawni’r camau hyn mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a chymorth.