Sut alla i gymryd rhan yn y gwaith hwn i wella gwasanaethau a chymorth dementia?
Os hoffech chi fod yn rhan o unrhyw ran o’n gwaith, mae llawer o gyfleoedd. Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl â phrofiad byw i fod ar ein ffrydiau gwaith ond os nad yw hynny o ddiddordeb i chi ar hyn o bryd gallwch gofrestru ar gyfer ein hymgyrch dementia ble byddwn ni’n cysylltu â chi gyda chyfleoedd eraill i gymryd rhan.
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Mynd i un o’n hacathonau
• Bod yn rhan o adolygiad llwybr Gwasanaethau Asesu cof
• Rhannu eich straeon a’ch profiadau
• Bod yn wrandäwr cymunedol fel y gallwch chi helpu pobl eraill i rannu eu straeon a’u profiadau.