Rydyn ni eisiau grymuso pobl i siapio a gwella gwasanaethau.

Eleni, fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i adnabod rhwystrau i gyfathrebu ac ymgysylltu, ac awgrymu sut i’w goresgyn. Y prif argymhellion a ddeilliodd o’r ymchwil yw:

Dylai hunan-eiriol fod yn ddewis cyntaf bob tro

Does neb yn deall sefyllfa’n well na’r person sydd wedi’i phrofi drosto’i hun. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n canfod ffyrdd ble gall pobl rannu’u profiadau er mwyn iddyn nhw deimlo fod rhywun yn gwrando, eu bod yn cael eu clywed

Bydd gweithredu dull un-maint-i-bawb o ymwneud ag ymgysylltu a chyfathrebu o reidrwydd yn eithrio rhai pobl

Mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu’n hygyrch. Efallai y bydd yn well gan rai pobl gyfathrebu mewn iaith arall ac efallai y bydd yn well gan rai pobl siarad dros y ffôn yn hytrach na

Mae angen i ni gyrraedd cynifer o bobl yn y gymuned â phosib

Mae angen i ni ledu ein rhwydweithiau, a chlywed oddi wrth bobl na fydden nhw fel arfer yn cyfrannu at ein sgyrsiau, er mwyn i ni allu cael gwir ddealltwriaeth o ran pwy yw ein cymunedau a beth sy’n effeithio arnyn nhw.

Mae angen i ni ddeall ein cynulleidfaoedd

Wrth i ni siarad â phobl a’u cynnwys yn ein gwaith, mae angen i ni addasu ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu i’r modd y bydd pobl yn deall gwybodaeth, nid o reidrwydd sut y byddan nhw’n cyfathrebu. Er enghraifft, creu canllawiau Darll

Dylid ceisio barn pobl er mwyn cael effaith go iawn ar eu bywydau

Rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Er mwyn gwneud hyn yn ystyrlon, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i gynnwys pobl yn y gwaith a wnawn, a chydweithio i greu argraff gadarnhaol.

Gofyn am becyn offer ymgysylltu

Gofyn am becyn offer ymgysylltu

Gofyn am becyn offer ymgysylltu

EngageYmgysylltu â phlant a phobl ifanc

Gwahoddwyd plant a phobl ifanc i gyfranogi mewn diwrnod creadigol i greu ffilmiau, cyfansoddi caneuon a chreu dyluniadau i ddangos beth mae iechyd meddwl a llesiant yn ei olygu iddyn nhw.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.