Mae plant yn naturiol greadigol a dyfeisgar, felly mae’n bwysig eu helpu nhw i ddatblygu i’w llawn botensial.
Fel Canolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella, rydyn ni’n angerddol am feithrin arloesedd ymysg pawb. Dyna pam roedd hi’n braf gyda ni sefydlu partneriaeth â Chyngor Merthyr Tudful gyda’r nod o ennyn creadigrwydd ymysg plant rhwng 9 a 13 oed (Cyfnod Allweddol 2).
Nod y prosiect oedd ysbrydoli’r plant i greu eu syniadau eu hunain a’u hannog i ddychmygu sut olwg allai fod ar eu cymuned yn y dyfodol, yn ogystal â meddwl am eu lles a’u gyrfa.
Roedden ni hefyd am greu cyfleoedd cynaliadwy y gall ysgolion fanteisio arnyn nhw yn y dyfodol.
Yn gyntaf, cysylltom ni ag ysgolion ym Merthyr Tudful â sefydliadau arloesol, gan gynnwys Techniquest, Prifysgol Caerdydd, Pharma Bees a Get Fit Wales. Roedd pob un o’r sefydliadau hyn am roi’r cyfle i blant ddefnyddio technoleg a gwneud gweithgareddau cyffrous.
Gyda dewis eang o brosiectau, roedden ni am roi cyfle i’r plant bleidleisio dros yr un roedden nhw am roi cynnig arno.
Ymhlith y prosiectau y dewisodd y plant roedd:
Pharma Bees: cyfleoedd i bob ysgol gael hadau gwyllt sy’n gyfeillgar i beillwyr fel bod modd i’r plant dyfu eu dolydd eu hunain
Get Fit Wales: cyfleoedd i bob disgybl gael traciwr ffitrwydd fel bod modd iddyn nhw gyfrif eu camau bob dydd
Tîm y Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: cyfleoedd i bob plentyn gael deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio i greu gwaith celf
Mae Get Fit Wales yn helpu plant i wella eu ffitrwydd a’u lles trwy roi mesurydd camau i bob plentyn.
Mae gan bob plentyn darged o 6,000 o gamau bob dydd, a bob tro mae plentyn yn cyrraedd ei darged, mae’n gallu defnyddio’r pwyntiau i wneud gweithgareddau fel dosbarthiadau hamdden, gemau cystadleuol yng Ngholeg Merthyr neu weithgareddau mewn lleoliadau fel Bike Park Wales.
Bydd prosiect Get Fit Wales ar waith drwy gydol 2021, a gyda chymorth y Ganolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella a Chyngor Merthyr Tudful, a bydd y prosiect yn cael ei werthuso i weld pa mor llwyddiannus yw.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y fenter yn parhau ac yn cael ei chyflwyno ym mhob un o’r tair ardal awdurdod lleol ar ôl 2021.
Mae Get Fit Wales yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i ategu eu cynnig addysg gorfforol presennol i ddarparu ffordd newydd hwyliog a gwerth chweil o sicrhau mwy o gyfranogiad a mwynhad mewn gweithgarwch corfforol. Mae ymgyrchoedd llwyddiannus yn cynnwys pum Ysgol yn cymryd rhan a’r gwobrau mwyaf cyffredin yw prydau iach yn y ffreutur, tocyn ciw naid ysgol, a ffrwythau a llysiau lleol am ddim. Hoffem gynnal a hyrwyddo’r cyfleoedd hyn ymhellach.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gymorth i helpu gyda:
Os yw hyn yn swnio fel menter yr hoffech gymryd rhan ynddynt, cysylltwch â ni!
E-bostiwch ni: hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk
Llinell pwnc: Addysg Hwb RIIC
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.