Mae Geraldine yn adnabyddus ym Merthyr Tudful. A hithau wedi gweithio gyda phobl ifanc am sawl blynedd, mae ganddi lu o gysylltiadau yn ei chymuned ac mae hi’n gweithio’n angerddol i wella bywyd plant a phobl ifanc yr ardal.
Trwy ei rôl fel Cydlynydd Prosiect gyda Barnardo’s Cymru, mae Geraldine wedi bod yn rhan o Brosiect Hyder, gafodd ei sefydlu i roi cymorth i ofalwyr ifanc sy’n byw ym Merthyr Tudful.
Mae Prosiect Hyder yn cael ei ariannu trwy’r Gronfa Gofal Integredig, a chafodd ei greu yn dilyn adborth gan ofalwyr ifanc am yr effaith negyddol roedd gofalu yn ei chael ar eu hunan-barch, eu haddysg, eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol.
Nod Hyder oedd rhoi cymorth unigol i ofalwyr ifanc a’u cysylltu nhw â gweithgareddau addysgol a chreadigol, fel corau, clwb llyfrau a gweithdai ysgrifennu, allai wella eu sgiliau a’u hyder.
Er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanu, roedd Geraldine a’i chydweithwyr yn siarad â theuluoedd a gofalwyr ifanc bob wythnos, trwy sgyrsiau ar y stepen ddrws, cyfarfodydd o bell, neu hyd yn oed sesiynau ‘cerdded a siarad’.
Yn ystod misoedd anodd y cyfnod clo a’r pandemig, roedd Geraldine a thîm Prosiect Hyder yn helpu banciau bwyd â’u danfoniadau, yn ogystal â mynd â phecynnau coginio a ryseitiau i gartrefi.
Prynodd y tîm ambell liniadur a dyfeisiau eraill i helpu plant a phobl ifanc gyda’u gwaith ysgol.
Yn ogystal â hynny, roedd y gofalwyr ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ar-lein, fel corau a gweithdai ysgrifennu cerddoriaeth a chaneuon.
Roedden nhw’n cael eu hannog hefyd i rannu eu profiadau mewn digwyddiadau gafodd eu cynnal gan Gomisiynydd Plant Cymru, a helpu i greu adnoddau addysgol a threfnu digwyddiad ymgynghori ynghylch cardiau adnabod i ofalwyr ifanc.
Cafodd Prosiect Hyder effaith gadarnhaol ar fywyd gofalwyr ifanc; dywedodd 89% ohonyn nhw fod y prosiect wedi cynnal neu wella eu hiechyd meddwl a’u lles a dywedodd 92% fod y prosiect wedi cynnal neu wella eu gwytnwch.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.