Sut mae'n gweithio?

Mae Cadw’n Iach Gartref 2 wedi ei leoli ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac mae ar agor rhwng 8.30am ac 8pm bob dydd.

Mae’r gwasanaeth yn ddolen uniongyrchol i dimau asesu (neu, mewn geiriau eraill, yn Bwynt Cyswllt Sengl), ac mae’n derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Mae hyn yn cynnwys meddygon teulu, nyrsys ardal a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Os yw rhywun yn dost, ond does dim angen iddo neu iddi fynd i’r ysbyty, yna gall y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ffonio’r Pwynt Cyswllt Sengl. Wedyn, mae modd cytuno ar becyn cymorth o fewn pedair awr.

Bydd hyn yn sicrhau bod y person yn derbyn y cymorth a’r gofal iawn i gadw’n ddiogel yn ei gartref ei hun.

Gwasanaethau

Gall y pecyn cymorth gynnwys un neu fwy nag un o’r gwasanaethau canlynol:

Pecynnau gofal a chymorth yn y cartref: i gynnwys cymorth gyda Gweithgareddau Bywyd Beunyddiol fel golchi a gwisgo, paratoi prydau a chymorth i gymryd moddion, am hyd at bythefnos.

Asesiadau Therapi Galwedigaethol: i gynnwys gwybodaeth a chyngor i weithwyr gofal, argymhellion yn rhan o raglen adsefydlu, a darparu offer.

Y gallu i ddefnyddio Siop Offer Cymunedol Vision Products RhCT: danfon offer cymhleth, symud dodrefn neu ffitio ‘sêff allweddi” fel bod gwasanaethau yn gallu mynd i mewn i gartref y claf.

Atgyfeiriadau at Dîm @Home Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Gall y tîm hwn ddiwallu anghenion iechyd y person

Atgyfeiriadau at Dîm Eich Moddion Gartref Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Gall y tîm hwn asesu anghenion fferylliaeth

Atgyfeiriadau at wasanaethau cymunedol fel Age Connects Morgannwg a Gofal a Thrwsio: Gallan nhw gynnig cymorth yn ogystal.

Bydd pob ymyriad yn destun adolygiad pythefnos i sicrhau bod y canlyniadau i bobl yn cael eu cyflawni a bod unrhyw atgyfeiriadau at wasanaethau pellach yn cael eu gwneud.

Gallwch chi weld sut cafodd Mr Jones gymorth gan Cadw’n Iach Gartref 2 isod. 

Model Cadw’n Iach Gartref 2 (cam un)

Mae Cadw’n Iach Gartref 2 yn adeiladu ar lwyddiant y cyfnod cyntaf, oedd wedi ennill sawl gwobr.

Darllen mwy
shake-hand

Cadw Mr Jones yn ddiogel gartref.

Gallwch chi glywed sut defnyddiodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y gwasanaeth 'Cadw’n Iach Gartref 2' i helpu Mr Jones.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.