Ar hyn o bryd, mae’r Cynghorydd Gebbie yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC).

Fel Cadeirydd yr RPB, mae’r Cynghorydd Gebbie’n gyfrifol am sicrhau fod aelodau’r RPB yn cydweithio i wella iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant pobl sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae hyn yn cynnwys goruchwylio darparu Cynllun Ardal Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg (sydd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2023), sy’n amlinellu’r gweithredoedd y bydd aelodau’r RPB yn eu cymryd i greu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y Cynghorydd Gebbie’n sicrhau hefyd fod partneriaid yn gweithio’n gyd-gynhyrchiol gyda chymunedau a staff rheng flaen i greu, arwain a gwerthuso gwasanaethau.

Rydym wedi creu ffilm i gyflwyno’r Cynghorydd Gebbie i chi. Gallwch ei wylio yma.

Mae’r Cynghorydd Gebbie’n dod â chyfoeth o brofiad yn ei sgil, a hithau wedi bod yn ddeiliad swyddi o bwys ym maes llywodraeth leol, gan gynnwys craffu ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau a deddfwriaeth.

Mae’r Cynghorydd Gebbie’n dod â chyfoeth o brofiad yn ei sgil, a hithau wedi bod yn ddeiliad swyddi o bwys ym maes llywodraeth leol, gan gynnwys craffu ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau a deddfwriaeth.

Meddai’r Cynghorydd Jane Gebbie:

“Braint o’r mwyaf yw cael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg. Fel aelod ers hydoedd o Undeb Llafur, ac ymgyrchydd cymdeithasol, rwy’n gredwr cryf yng ngrym undod i yrru newidiadau cadarnhaol a diriaethol yn eu blaen.

“Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd drwy gyfnod anodd eithriadol – gan effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Gwyddom hefyd o’n Hasesiad Anghenion y Boblogaeth fod sawl rhwystr a her yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Ni ellir datrys y rhain ar ein pen ein hun.

“Fel Cadeirydd, rwy’n addo sicrhau ein bod ni’n atebol fel partneriaeth. Gwyddom o siarad â’n cymunedau mor bwysig yw gwybodaeth a diweddariadau, a byddwn ni’n dryloyw ynghylch sut y gall pobl gymryd rhan yn ein gwaith, a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud.

“Rwy’n hyderus y gallwn ni, drwy weithio gyda’n cymunedau, a gwrando arnynt, wella gwasanaethau er mwyn creu dyfodol iachach a hapusach i’n preswylwyr.”

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.