Mae ‘The Flowers’ yn cynrychioli buddsoddiad o £3.6 miliwn oddi wrth y Gronfa Tai â Gofal, a gefnogir gan Bartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r cartref, a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn darparu amgylchedd meithringar ar gyfer hyd at 12 o bobl ifanc, gan gynnig llety yn y tymor hirach, asesiadau brys, a chefnogaeth arbenigol i’r rheiny ag anghenion ychwanegol.

Mae hyn oll yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, gan sicrhau fod y gwasanaethau’n blaenoriaethu llesiant, hawliau, a dyfodol pobl ifanc.

Mae 'The Flowers', a lansiwyd yn swyddogol gan Dawn Bowden AS: Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, yn cynnwys ystod o gyfleusterau a gynlluniwyd i helpu plant i deimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi.

Mae pob ystafell wely wedi’i chynllunio’n ofalus gyda waliau lliwgar, carpedi patrymog, a lle i storio teganau, llyfrau a lluniau. Mae gwagleoedd i’w rhannu, fel y gampfa, ardaloedd byw, a’r ardd, yn annog chwarae, ymarfer corff, a chysylltu, tra bo’r ystafelloedd synhwyraidd a therapi’n cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer anghenion emosiynol a datblygol.

Yn ôl y Cynghorydd Jane Gebbie, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cael y dechrau gorau bosib mewn bywyd, ac mae hynny’n dechrau gyda chael cartref cynnes, diogel, ymdeimlad o berthyn, a’r gobaith am ddyfodol gwell. Rwy’n falch fod ein partneriaeth ranbarthol wedi chwarae rhan allweddol wrth ddod â ‘The Flowers’ yn fyw.

“O’r ystafell synhwyraidd i’r ystafelloedd gwely llachar a’r lolfa groesawgar, mae pob manylyn yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn o’r hyn sydd ei angen ar blant i deimlo’n ddiogel, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Dyma enghraifft rymus o’r cydweithio y mae’n rhaid i ni ddysgu oddi wrth a’i ddyblygu, er mwyn i bob person ifanc ar draws ein rhanbarth gael y cyfle i ffynnu.”

Fel amgylchedd diogel a therapiwtig, mae’r datblygiad hefyd yn adlewyrchu uchelgais Strategaeth Gyfalaf 10 Mlynedd Cwm Taf Morgannwg, sy’n amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer gofal integredig sy’n canoli ar yr unigolyn ar draws y rhanbarth.

Meddai Nia McIntosh, Swyddog Comisiynu Rhanbarthol Ar y Cyd dros Bartneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym fod teimlo eu bod nhw gartref go iawn yn mynd ymhellach na chael to dros eu pennau – mae’n ymwneud â pherthyn, hunaniaeth, a chyswllt. Drwy ein hymrwymiad ar y cyd i agenda Dileu Elw, rydyn ni’n creu cartrefi ble mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a’u grymuso.

“Mae ‘The Flowers’ yn enghraifft rymus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni’n gwrando ar bobl ifanc, a chydweithio i ateb eu hanghenion. Mae’n dangos sut y gallwn ni greu nid yn unig dai, ond hafanau – mannau sy’n meithrin llesiant ac yn agor drysau i well dyfodol. Byddwn ni’n para i ddysgu oddi wrth brosiectau fel hyn er mwyn llunio datblygiadau i’r dyfodol sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Rydyn ni wedi ymroi i helpu pobl gydag anghenion gofal a chefnogaeth i fyw’n annibynnol. Mae ‘The Flowers’ yn enghraifft arbennig o’n hymrwymiad i ddarparu llety hanfodol a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”  

Gellir darllen Strategaeth Gyfalaf 10 Mlynedd Cwm Taf Morgannwg yma.  

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau cyfalaf yng Nghwm Taf Morgannwg, cysylltwch ar hello@ctmregionalpartnershipboard.co.uk, neu ewch i’n gwefan: www.ctmregionalpartnershipboard.co.uk  

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.