Kay Tyler
Job Title: Cynrychiolydd gofalwyr
Fy enw i yw Kay Tyler ac rydw i’n gynrychiolydd gofalwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ers dros ddwy flynedd.
Mae gen i ddau o blant, sydd erbyn hyn yn oedolion, ac mae syndrom prin ac anabledd dysgu cysylltiedig gydag un ohonyn nhw. Ar hyn o bryd, mae’n byw mewn llety byw â chymorth ac rydyn ni fel teulu yn ei helpu i fwynhau bywyd da ac yn dal i helpu i ofalu amdano. Hefyd, tan yn ddiweddar, roeddwn i’n helpu i ofalu am fy nhad oedd yn byw gyda Dementia.
Ers 2017, rydw i wedi bod yn aelod o The Grapevine, sef grŵp o rieni a gofalwyr oedolion gydag anableddau dysgu. Rydw i hefyd yn gynrychiolydd gofalwyr ar nifer o fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn ymddiriedolwr ar Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru.
Mae fy mhrofiadau personol wedi fy helpu i ddeall a gwerthfawrogi pa mor bwysig yw cynnwys gofalwyr di-dâl yng ngwaith ein Bwrdd a’n galluogi ni i ddefnyddio ein lleisiau, ein safbwyntiau a’n profiad byw i gynllunio, gwella a datblygu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio.