Doedd fy siwrne ddim yn arferol – ond doedd hi byth yn mynd i fod. Y cyfan ro’n i’n ei wybod pan ro’n i’n tyfu oedd mod i’n hoffi gofalu am bobl. Ro’n i eisiau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth.
Fel pawb arall, mae gennym brofiadau bywyd sy’n ein diffinio ni, ac weithiau, yn anffodus, sy’n ein gadael ni dan anfantais. Dyna sy’n fy ngyrru i bob dydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Pan oeddwn i’n 18, des i’n rhiant ifanc. Gadewais addysg i gael swydd i gynnal fy nheulu. Dyma’r her fwyaf wnes i ei hwynebu erioed – ro’n i’n llawn o ynni optimistig ac yn eithaf siomedig gyda sut roedd pethau mewn gwirionedd yn y byd go iawn.
Roedd yn her i gael drysau i agor, i bobl eich ystyried ar gyfer eich cyflogi, i’ch cymryd chi o ddifri. Fyddech chi ddim yn clywed dim ar ôl gwneud y rhan fwyaf o geisiadau am swyddi, a byddai eraill yn disgwyl blynyddoedd o brofiad neu radd. Roedd pethau fel pe baen nhw wedi pwyso yn erbyn rhywun, ac roeddwn i’n prysur fynd i unlle.
Dysgais fy ngwers bywyd go iawn gyntaf fan hyn: peidiwch â rhoi’r gorau iddi! Daliwch ati i guro drysau, yn y pen draw bydd rhywun yn ateg.
Mae sawl gwers yr hoffwn eu rhannu gyda chi heddiw, y dysgais i ar fy nhaith, na fydd llawer o bobl eisiau’u trafod yn agored
Fe wnes i fethu cymaint o weithiau wrth gyrraedd ble rydw i heddiw – felly peidiwch â thanystyried na gosod disgwyliadau ar eich hunan am lwyddiant sydyn. Fydd llawer o bobl byth yn datgelu’r heriau a wynebwyd ganddynt na pha mor aml y methodd eu syniadau (bydd bob amser yn fwy nag y disgwyliech chi erioed).
Y gwir yw ei fod yn brifo lot fawr. Byddwch yn mynd drwy’r mosiwns. Ond byddwch chi’n cael pwynt allweddol sy’n newid popeth wrth sylweddoli mai dim ond chi all osod eich terfynau eich hunan ar lwyddiant.
Yn ôl at y gwaith o chwilio am swydd! Newyddion da! Fe ges i’r cyfle o’r diwedd yn 2009 – pan wnaeth elusen fentro’i lwc arna i. Fi oedd eu Gweithiwr Cefnogi ifancaf ar y pryd. Dyna ble dechreuodd popeth, mewn gwirionedd. Bod yn rhan o elusen anhygoel o’r enw Innovate Trust, yn cefnogi oedolion ag anableddau. Roedd yn waith oedd yn cyfoethogi, a bu’n gyfrifol am roi llawer o’r sgiliau bywyd i mi sydd o ddefnydd i fi heddiw.
Mae’n debygol eich bod chi’n meddwl tybed beth sydd gan hyn i’w wneud ag arloesi?
Dechreuais ddysgu PHP, CSS a JavaScript yn fy amser hamdden – a’r cyfan drwy gyfrwng adnoddau rhad ac am ddim ar lein. Adeiladais bortffolio, a arweiniodd yn y pen draw at fy ngweld yn sefydlu fy nghwmni fy hun, Ashley Bale IT Services. Fe wnaeth hyn hefyd fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m gyrfa’n ddiweddarach.
Cwrddais â llawer o bobl ragorol ar fy nhaith a helpodd fi i ddatblygu’n broffesiynol. Yn fy amser hamdden, adeiladais yr LMS ar gyfer yr elusen, gan hyfforddi’r gweithlu o 900+. Wedyn, cefais gynnig swydd swyddog yn gyfrifol am holl Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu’r sefydliad.
Roedd gen i gyfle i rannu fy syniadau, datblygu gydag eraill, gwneud cysylltiadau gwych a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn 2017 ces rôl yn arwain ar bopeth Digidol. Dechreuodd pethau fynd o nerth i nerth go iawn o fan hyn ymlaen.
Beth yw Arloesi? Arloesi i fi yw camu’n ôl, edrych ar fodel, proses neu syniad, a datblygu ateb sy’n creu gwell canlyniad i’r defnyddiwr terfynol. Does dim rhaid iddo ymwneud â thechnoleg.
Mae’n bwysig cofio nad oes yn rhaid iddo fod yn chwyldroadol. Gall fod yn un o’r syniadau syml yna sy’n ymddangos mor amlwg, ond nad oes neb wedi gweithredu arnyn nhw – a all fod ac a fydd yn creu’r argraff ddyfnaf.
Bydd llawer o bobl yn ofni arloesi, ac yn fy mhrofiad i, mae hynny yn ei hanfod yn ymwneud ag ofni newid. Ofni cael eich gadael ar ôl, ofn yr anwybod, a’r ofnau cysylltiedig sef methiant a phwysau’r gymdeithas.
Rydyn ni’n arloesi bob dydd. Rydyn ni oll yn chwilio am ffyrdd o wneud pethau’n haws, yn llyfnach ac yn fwy effeithiol. Gallai fod yn broses syml o wneud paned o goffi, neu’n adeiladu meddalwedd AI – hanfod arloesi yw gwneud pethau’n well, yn gynhwysol ac mewn modd sy’n gweithio i bawb.
Rwyf wedi bod yn ffodus i gael cymryd rhan mewn sawl prosiect fel:
Datblygwyd yr ap yn ystod y pandemig ac mae wedi rhoi mynediad i oedolion ag anableddau i dros 4,000+ o ddigwyddiadau ar lein rhad ac am ddim. Mae dros 100 o sefydliadau wedi ymuno â’r ap i rannu’u newyddion a’u hadnoddau gyda’r 1,400 o aelodau o bob cwr o’r DU.
Mae’r llwyfan wedi cefnogi cyfleoedd i bobl adeiladu cyfeillgarwch a pherthynas, cynyddu sgiliau digidol a darparu lle i bobl allu cael mynediad i adnoddau a gweithgareddau.
Mae’r llwyfan yn parhau i dyfu gyda nodweddion newydd a’r aelodaeth yn cynyddu’n ddyddiol, Dyma un o’r prosiectau arloesi mwyaf unigryw a ddatblygwyd gen i. Mae wir wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl yn ystod rhai o’r adegau mwyaf heriol, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws.
Gweld yr effaith a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud yw’r peth sy’n gwneud pob eiliad o fethiant yn werth chweil.
Os oes gennych chi syniad arloesol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithasol, byddwch yn eofn, byddwch yn ddewr, a pheidiwch â rhoi’r gorau iddi. Daliwch ati i wneud popeth allwch chi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Un o’r llwybrau hanfodol ar y ffordd i lwyddo yw peidio â rhoi’r gorau iddi os nad oes gennych yr ateb neu’r sgiliau. Chwiliwch am rywun o’r un feddwl â chi sy’n rhannu eich gwerthoedd a’ch ethos a gwnewch yn siŵr fod eich syniad yn digwydd.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.