Pam ydyn ni’n gwneud hyn?
Mae gan bobl sy’n byw yn ein cymunedau fywydau gwahanol, profiadau gwahanol, straeon gwahanol i’w hadrodd ac anghenion gwahanol. O gofio hyn, ni ddylid cael agwedd ‘un maint i bawb’ at ymgysylltu cymunedol.
Bydd ein gweithdai’n edrych ar y ffyrdd gorau o greu llwyfannau ble gall pobl godi’u llais, cael eu derbyn a’u gwerthfawrogi er mwyn iddyn nhw allu gwneud gwahaniaeth i ddyfodol y prosiectau a’r gwasanaethau y byddan nhw’n eu defnyddio.
Bydd cyfle i glywed astudiaethau achos, rhannu’r hyn a ddysgwyd ac ymgymryd â gweithgareddau i ddarganfod y dulliau gorau gyda’n gilydd.
Nodwch os gwelwch yn dda fod yr hyfforddiant hwn wedi’i gyllido’n llawn i bob sy’n byw ac yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
ant hwn wedi’i gyllido’n llawn i bob sy’n byw ac yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.