Dylai hunan-eiriol fod yn ddewis cyntaf bob tro
Does neb yn deall sefyllfa’n well na’r person sydd wedi’i phrofi drosto’i hun. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n canfod ffyrdd ble gall pobl rannu’u profiadau er mwyn iddyn nhw deimlo fod rhywun yn gwrando, eu bod yn cael eu clywed
Bydd gweithredu dull un-maint-i-bawb o ymwneud ag ymgysylltu a chyfathrebu o reidrwydd yn eithrio rhai pobl
Mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu’n hygyrch. Efallai y bydd yn well gan rai pobl gyfathrebu mewn iaith arall ac efallai y bydd yn well gan rai pobl siarad dros y ffôn yn hytrach na
Mae angen i ni gyrraedd cynifer o bobl yn y gymuned â phosib
Mae angen i ni ledu ein rhwydweithiau, a chlywed oddi wrth bobl na fydden nhw fel arfer yn cyfrannu at ein sgyrsiau, er mwyn i ni allu cael gwir ddealltwriaeth o ran pwy yw ein cymunedau a beth sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae angen i ni ddeall ein cynulleidfaoedd
Wrth i ni siarad â phobl a’u cynnwys yn ein gwaith, mae angen i ni addasu ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu i’r modd y bydd pobl yn deall gwybodaeth, nid o reidrwydd sut y byddan nhw’n cyfathrebu. Er enghraifft, creu canllawiau Darll
Dylid ceisio barn pobl er mwyn cael effaith go iawn ar eu bywydau
Rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Er mwyn gwneud hyn yn ystyrlon, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i gynnwys pobl yn y gwaith a wnawn, a chydweithio i greu argraff gadarnhaol.