Dywedodd Prif Weithredwr STEER, Tracy Mills:
“Roedd y prosiect wedi ei gwneud yn bosibl i ni gefnogi pobl ifanc agored i niwed, a fyddai fel arall wedi bod yn unig ac ar eu pen eu hunain. Roedden nhw wrth eu boddau yn gwneud yr heriau corfforol a bod yn yr awyr agored. Dros yr wythnosau, roedd y rhai llai abl yn rhedeg o gwmpas ac yn chwerthin, a dywedon nhw eu bod yn teimlo’n iachach ac yn fwy heini ynddyn nhw eu hunain.
“Dywedon nhw hefyd nad oedden nhw’n estyn am eu ffôn trwy’r amser a bod pethau gwahanol gyda nhw i siarad amdanyn nhw. Roedd y gampfa werdd hefyd wedi eu helpu i ymdopi â straen arholiadau, ac roedd yn gyfle iddyn nhw ryddhau ychydig o dyndra trwy wneud ymarfer corff mewn lleoliad awyr agored gwych.
“Dywedodd rhai o’r bobl sy’n byw gydag Awtistiaeth eu bod yn teimlo bellach yn ddigon cryf i siarad ag eraill, a bod y gweithgareddau wedi eu helpu i feithrin eu hyder yn ara’ deg ac wedi gwella eu hunan-barch.
“Roedden ni hefyd wedi derbyn nifer fawr o atgyfeiriadau gan wasanaethau cymorth arbenigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cael cyllid yn golygu bod modd i ni gefnogi pobl ifanc agored i niwed a fyddai fel arall yn unig ac ar eu pen eu hunain. Rydyn ni’n gwybod bod y prosiect wedi gwella lles, gan fod pob un o’r bobl ifanc, eu rhieni a’r gwasanaethau cymorth wedi cymryd pleser mewn dweud wrthym ni am y gwahaniaeth mae’r prosiect wedi ei wneud.
“Roedd cael cyllid hefyd wedi ei gwneud yn bosibl i ni gynnig sesiynau oedd wedi eu teilwra i unigolion, er mwyn diwallu anghenion unigolion, ac roedd hefyd wedi ein rhoi ar y map i wella ein gallu i gynnig gwasanaethau a chynnig mwy o weithgareddau awyr agored.
“Roedden ni’n gallu prynu offer mawr ei angen er mwyn cynnig llawer mwy o weithgareddau. Roedd y bobl ifanc wedi ennill cymwysterau hefyd, oedd wedi eu help i fwrw ymlaen mewn bywyd.