Mae Llywyddion Cymunedol BAVO yn cefnogi’r rhaglen ‘Datblygu cymunedau cydnerth a chysylltiedig’. Maen nhw’n helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac i fynnu gwybodaeth a chyngor, sydd wedyn yn effeithio mewn modd positif ar eu bywydau. Mae hyn yn eu helpu i sicrhau nad yw eu hamgylchiadau’n dirywio ymhellach i’r graddau y byddai angen cymorth iechyd neu ofal cymdeithasol dwysach arnyn nhw.
Trwy gydol pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo, mae rôl y Llywyddion Cymunedol wedi newid er mwyn diwallu anghenion y gymuned, ac maen nhw’n darparu cymorth unigol hollbwysig ac yn rhoi pobl agored i niwed ar ben ffordd ac yn eu helpu i ddod o hyd i wasanaethau.
Cyfarfu Llywydd Cymunedol BAVO â SB, sy’n dioddef o iselder difrifol, gorbryder a phroblemau personoliaeth. Mae Spondylitis Serfigol gyda hi hefyd sy’n achosi poen ddifrifol ac sy’n effeithio ar ei gallu i symud.
“Roeddwn i’n ei chael yn anodd oherwydd fy iechyd meddwl a materion ariannol pan oeddwn i wedi cysylltu â BAVO gyntaf a siarad â Gail. Roedd newid i fy moddion wedi gwneud i fi deimlo’n isel, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd o ddydd i ddydd.
“Roedd y parseli bwyd roedd Gail yn gallu eu casglu a’u rhoi i fi yn achubiaeth i fi. Roedd yn hyfryd gweld rhywun ar y stepen drws, ac yn hyfryd hefyd gwybod bod rhywun yno ar ben arall y ffôn os oedd problem ‘da fi doeddwn i ddim yn gallu delio â hi.
“Rydw i’n defnyddio fy nghyfrifiadur i siopa ar-lein ac i aros mewn cysylltiad â fy merch fedydd, ond torrodd e dros yr haf ac roeddwn i mewn panig llwyr a dweud y gwir. Roedd Gail wedi dod o hyd i siop trwsio cyfrifiaduron i fi a oedd yn gallu trwsio a dychwelyd y cyfrifiadur. Roedd y siop wedi gorffen y gwaith trwsio ymhen ychydig ddyddiau oedd yn wych, ac oherwydd hyn doeddwn i ddim heb y gallu i gadw mewn cysylltiad am amser hir iawn a doedd dim angen help ychwanegol arnaf i am rhy hir.
“Mae Gail wedi cadw mewn cysylltiad â fi dros y ffôn, i weld sut ydw i bob hyn a hyn. Mae’n braf cael rhywun ar ben arall y ffôn. Hyd yn oed os dydw i ddim yn ateb, mae’n dda cael neges gan rywun.
“Mae fy Spondylitis yn effeithio ar fy nwylo a fy nghoesau, ac rydw i’n dechrau ei chael yn anodd mynd i fyny ac i lawr y staer a cherdded o gwmpas y tŷ. Roedd yn rhyddhad pan awgrymodd Gail y gallai hi gysylltu â’r Tîm Pwynt Mynediad Cyffredinol i weld a fyddai modd iddyn nhw wneud addasiadau i’r tŷ. Cysylltodd y Tîm Pwynt Mynediad Cyffredinol yr un bore, ac rydw i bellach wedi cael sgwrs â’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio ac yn aros i waith gael ei wneud.
“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydw i wedi bod yn ymdopi’n llawer gwell, dydw i ddim yn llefain trwy’r amser. Mae Gail wedi fy nghefnogi trwy drafod syniadau ymarferol â fi am sut i ddatrys fy mhroblemau; mae’n rhoi opsiwn i fi bob tro, ‘sdim ots beth yw’r broblem.”
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.