Sicrhau bod pobl yn cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl
Rydyn ni eisiau cefnogi pobl i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau iechyd meddwl yn eu hardaloedd lleol. Gall hyn helpu i wella eu lles, a lleihau unigrwydd ac ynysrwydd.
Drwy gyfrwng y gwaith hwn, ein gobaith yw:
- Gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws ein cymunedau gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysrwydd.
- Cynyddu adnoddau mynediad agored o fewn ardaloedd lleol, sydd ar gael i bwy bynnag sydd eu hangen.
- Cynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o gyflyrau penodol a fydd yn gwella cynhwysiant ac yn annog pobl i ymgysylltu.