Creu gwasanaethau a chymorth dementia hygyrch
Rydyn ni’n gwybod y byddai pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn hoffi cael cymorth a gwybodaeth wedi’i deilwra i ddiwallu eu hanghenion.
Mae hygyrchedd yn thema allweddol yn Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, yr ydyn ni’n gweithio tuag at ei chyrraedd yng Nghwm Taf Morgannwg.
Rydyn ni eisiau addasu dulliau cyfathrebu, gwasanaethau a chefnogaeth fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wybodaeth, cyngor a gofal mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.