I bobl hŷn fwynhau iechyd a lles da fel y gallant aros yn annibynnol
Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia fwynhau iechyd a llesiant da, a chael eu cefnogi i fyw’n annibynnol yn hirach.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella cyfleoedd ar gyfer gwneud addasiadau / newidiadau i’r cartref a fydd yn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach
- Gwella cynhwysiant o fewn cymunedau i helpu pobl i gael synnwyr o bwrpas
- Cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol wedi’u teilwra at anghenion pobl hŷn
- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn
- Gwella cynhwysiant digidol