I bobl hŷn gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
Rydyn ni eisiau i bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia gael eu cefnogi i ymgysylltu â’u cymuned leol a chael ansawdd bywyd ble caiff unigrwydd ei leihau.
I gyflawni hyn, byddwn ni’n gweithio tuag at:
- Gwella cysylltedd cymdeithasol ac annog perthynas gadarnhaol rhwng cenedlaethau
- Sicrhau bod pobl hŷn a gofalwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt wrth gael mynediad at wasanaethau, cymorth a gweithgareddau
- Creu gweithgareddau cymunedol mwy hygyrch i bobl hŷn, a’r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol neu broblemau symudedd
- Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor am wasanaethau a chyfleoedd